Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:39, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae cytundebau 106 yn cynnig cyfle i gymunedau lleol sicrhau manteision ehangach o ddatblygiadau mawr, neu ddatblygiadau yn eu hardal. Ac yn amlwg, pan roddir sicrwydd i bobl leol yn rhan o'r cynnig ar ei ffurf gychwynnol, rydym yn cydnabod y bydd yn dod law yn llaw â gwahanol gytundebau a phrosiectau datblygu cymunedol—mae'n creu pryderon pan nad yw hynny'n digwydd. Ac yn sicr, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o ran sut y gwnawn yn siŵr fod pobl leol yn hyderus ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol, a thrwy'r cynlluniau datblygu lleol, i sicrhau bod manteision llawn cytundebau adran 106 yn cael eu gwireddu.