Rhenti ar gyfer Tai Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:55, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i renti fod yn fforddiadwy i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol. Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio â pholisi rhenti cyfredol Llywodraeth Cymru, sy'n darparu fframwaith sy'n golygu bod landlordiaid cymdeithasol yn gyfrifol am bennu'r rhenti ar gyfer eu tai a'u tenantiaid eu hunain.