2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
6. Beth yw hyd a lled pwerau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yn fforddiadwy? OAQ53446
Mae'n rhaid i renti fod yn fforddiadwy i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol. Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio â pholisi rhenti cyfredol Llywodraeth Cymru, sy'n darparu fframwaith sy'n golygu bod landlordiaid cymdeithasol yn gyfrifol am bennu'r rhenti ar gyfer eu tai a'u tenantiaid eu hunain.
Fy nealltwriaeth i yw bod Llywodraeth Cymru wedi pennu mynegai o 2.4 y cant o gynnydd yn asesiad mis Medi 2018 o'r hyn sy'n rhesymol o ran mynegai prisiau defnyddwyr, ac mae hynny'n golygu bod rhent wythnosol tenantiaid, os ydynt yn denantiaid sicr, yn 2.4 y cant yn unig. Nawr, fy nealltwriaeth i yw nad yw hyn ond yn berthnasol i renti sicr yn unig ac y daw'n weithredol ar 1 Ebrill eleni. Mae nifer o denantiaid wedi bod yn gohebu â mi gan fynegi pryderon ynghylch lefel y cynnydd y maent yn ei wynebu yn y rhenti. Mae un tenant sicr, na fydd, yn amlwg, yn wynebu cynnydd o fwy na 2.4 y cant, hefyd yn wynebu taliadau gwasanaeth am bethau ychwanegol fel addurno, garddio, atgyweirio'r to, y math hwnnw o beth, a dros y blynyddoedd diwethaf, ers i'r tâl gwasanaeth a'r rhent fod ar wahân, mae'n dweud ei bod wedi wynebu cynnydd sylweddol ddwywaith y flwyddyn. Felly, mae hynny wedi arwain at gostau uchel iawn i'r unigolyn dan sylw.
I unigolyn arall, sy'n denant sicr, mae swyddog rhenti yn pennu rhent teg. Cafwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Hydref, ac fe'i pennwyd ar gynnydd o 8 y cant dros y ddwy flynedd nesaf. Nawr, mae hynny'n llawer uwch na'r 2.4 y cant. A fy mhryder i yw bod landlordiaid cymdeithasol yn dod o hyd i fylchau sy'n golygu nad ydynt yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o 2.4 y cant, a bod hyn oll yn digwydd yng nghyd-destun prinder llwyr o dai fforddiadwy, a bod pobl ar gyflogau isel yn pryderu na fydd modd iddynt aros yn eu tai rhent cymdeithasol oni bai eu bod yn cael budd-dal tai, sy'n arwain at gymhelliant gwrthnysig i fod yn ddi-waith. Ac yn amlwg, byddai pob un ohonom yn cytuno—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn.
Diolch. Ymddiheuriadau. Ac felly, fy mhryder yw, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud am hyn, o ystyried y goblygiadau i denantiaid tai cymdeithasol?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n cydnabod bod darparu'r holl dai sydd eu hangen arnom ar draws deiliadaethau yn her, ac yn her nid yn unig i'r rhai sy'n cyflenwi tai, ond heriau i'r bobl sydd angen y tai hynny hefyd.
Rydych yn gwbl gywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na ddylai rhenti eleni yn y sector tai cymdeithasol gynyddu mwy na 2.4 y cant. Mae landlordiaid tai cymdeithasol unigol wedi dadlau y gall fod angen amrywio'r cynnydd mewn rhenti er mwyn rheoli tai mewn rhannau gwahanol o'u stoc dai. Lle llwyddwyd i ddadlau'r achos hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ganiatáu amrywiad cyfyngedig wedi'i reoli o amgylch cynnydd cyfartalog o 2.4 y cant. Mae'r pwyntiau rydych wedi eu codi o ran yr heriau y mae rhai o'ch etholwyr yn eu hwynebu yn haeddu rhagor o sylw, a hoffwn eich gwahodd efallai i ysgrifennu at y Gweinidog tai ar y mater hwn fel y gallwn archwilio hynny ymhellach.