Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:37, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Pan fyddwn yn rhoi sylw i ddatblygiadau mawr, mae'r Aelod wedi nodi—fel y gŵyr llawer o'r Aelodau o'u bagiau post eu hunain—yr angen i ystyried, yn rhan o'r broses honno, ac yn rhan o'r cynlluniau datblygu lleol, y seilwaith lleol hwnnw yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd. Ac yn ddiweddar cawsom adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru', er mwyn ehangu'r cyd-destun hwnnw, ac i ystyried pethau mewn modd mwy cyfannol.