Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 20 Chwefror 2019.
Iawn. Ac wrth gwrs, nid oes llawer o amser ers hynny, felly bydd angen inni edrych ar hynny yn nes ymlaen. Ond yn amlwg, fel y dywedwch, ceir goblygiadau o ran seilwaith yn sgil y datblygiadau tai mawr hyn, o ran gosod y seilwaith sy'n angenrheidiol bob amser. Nawr, mae un pwynt penodol mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r defnydd o gytundebau adran 106. Amodau yw'r rhain sydd ynghlwm wrth geisiadau cynllunio, lle mae'n rhaid i'r datblygwr ddarparu cyfleusterau cymunedol penodol, a allai fod yn barc, llyfrgell, maes chwarae, neu a allai fod yn rhan arall o'r seilwaith. Cafwyd cwynion nad yw llawer o ddatblygwyr wedi darparu'r cyfleusterau y dywedasant y byddent yn eu darparu. A ydych yn credu bod y gwaith o orfodi cytundebau adran 106 wedi bod yn ddigon cadarn?