Rhenti ar gyfer Tai Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:58, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n cydnabod bod darparu'r holl dai sydd eu hangen arnom ar draws deiliadaethau yn her, ac yn her nid yn unig i'r rhai sy'n cyflenwi tai, ond heriau i'r bobl sydd angen y tai hynny hefyd.

Rydych yn gwbl gywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na ddylai rhenti eleni yn y sector tai cymdeithasol gynyddu mwy na 2.4 y cant. Mae landlordiaid tai cymdeithasol unigol wedi dadlau y gall fod angen amrywio'r cynnydd mewn rhenti er mwyn rheoli tai mewn rhannau gwahanol o'u stoc dai. Lle llwyddwyd i ddadlau'r achos hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ganiatáu amrywiad cyfyngedig wedi'i reoli o amgylch cynnydd cyfartalog o 2.4 y cant. Mae'r pwyntiau rydych wedi eu codi o ran yr heriau y mae rhai o'ch etholwyr yn eu hwynebu yn haeddu rhagor o sylw, a hoffwn eich gwahodd efallai i ysgrifennu at y Gweinidog tai ar y mater hwn fel y gallwn archwilio hynny ymhellach.