Tai Cydweithredol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:01, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

O, mae'n ddrwg gennyf; nid oeddwn yn siŵr a oeddech wedi gorffen.

Er bod tai cydweithredol yn darparu cyfran sylweddol o anheddau mewn llefydd mor amrywiol ag Efrog Newydd, Vancouver a'r gwledydd Llychlyn, nid yw'n darparu llawer o dai yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog sefydlu tasglu neu gymryd camau i nodi beth sydd angen ei wneud i gynyddu tai cydweithredol yn sylweddol yng Nghymru? Credaf ei fod yn rhywbeth sydd ar goll yng Nghymru ac mae'n gyfle i gynyddu nifer y tai, ac mae pawb ohonom yn dweud ein bod eisiau gwneud hynny.