Tai Cydweithredol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:02, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn sôn am fentrau arloesol sy'n digwydd mewn mannau eraill, nid yn unig yn Ewrop ond ar draws y byd. Rwy'n cytuno bod yna bethau y gallwn eu dysgu o fannau eraill yn y maes tai a meysydd polisi cyhoeddus eraill yn ogystal. Yn yr un modd, mae yna bethau y gallai gwledydd eraill eu dysgu gennym ni. Mae gennym fentrau arloesol mewn perthynas â thai cydweithredol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'r rhain ar raddfa gweddol fach, ond mae rhai'n amlwg yn fwy llwyddiannus nag eraill, ac mae angen i ni ddysgu o'r enghreifftiau hyn a'u hymestyn yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd.

Mae gennym eisoes nifer o grwpiau arbenigol ar y pwnc hwn. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru, sy'n cael arian grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae gennym grŵp rhanddeiliaid tai cydweithredol hefyd, lle mae Tai Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â'r grwpiau tai dan arweiniad y gymuned eu hunain wedi ymuno â Chanolfan Cydweithredol Cymru a'r Cydffederasiwn Tai Cydweithredol. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi ein hargyhoeddi o rinweddau cael grŵp arbenigol arall, ond credaf ei fod yn sicr yn rhywbeth y gall y grwpiau arbenigol hyn ei ystyried i sicrhau eu bod yn dysgu o enghreifftiau mewn rhannau eraill o'r byd a gweld sut y gallant gymhwyso'r rheini'n llwyddiannus yma yng Nghymru.