Amodau Cynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:51, 20 Chwefror 2019

Wel, dwi'n anghytuno gyda hynny, oherwydd mae yna enghreifftiau cyson iawn erbyn hyn o achosion lle mae yna ddatblygwyr, hyd yn oed ar ôl cael caniatâd cynllunio, yn gwrthod darparu'r canran angenrheidiol o dai fforddiadwy y maen nhw wedi cytuno i'w darparu fel rhan o'r amod cynllunio, a'r rheswm, yn syml iawn, wrth gwrs, yw achos nad ydyn nhw'n gallu gwneud digon o elw allan o'r cynllun. Os nad oes yna reidrwydd iddyn nhw gadw at y cymal hwnnw doed a ddelo, yna pam gosod y cymal yn y lle cyntaf? Felly, beth ŷch chi am ei wneud fel Llywodraeth—a ddim golchi'ch dwylo o'r mater yma, oherwydd mae'n broblem genedlaethol—i gynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod cymalau fel hyn sy'n dynodi nifer y tai fforddiadwy angenrheidiol yn cael eu parchu a'u gwireddu gan ddatblygwyr?