Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 20 Chwefror 2019.
Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Pan fo rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu negodi gan awdurdodau lleol a datblygwyr—ac maent yn cynrychioli amodau pwysig, gan gynnwys amodau y mae llawer ohonom yn y Siambr hon o'u plaid—mae'n bwysig fod y datblygwr yn diogelu hynny er budd y cyhoedd. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, os yw'r cyhoedd wedi bod yn dilyn cais cynllunio penodol gyda disgwyliad penodol, mae ganddynt hawl i ddisgwyl y cedwir at y rhwymedigaethau hynny, ac rwy'n ymwybodol, fel y dywedwch, o ddatblygwyr sy'n ceisio ailnegodi rhai o'r ceisiadau cynllunio hynny ar ôl sicrhau cydsyniad i ddatblygu. Gwn fod hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n edrych ar y mater.