Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn amlwg yn gyhoeddiad sy'n peri pryder i ni. Credaf fod tua dwsin o gwmnïau yn gyflenwyr uniongyrchol, gan gynnwys Kasai—200 o weithwyr ym Merthyr Tudful—Toyoda Gosei yng Ngorseinon—600 o weithwyr yno, rwy'n credu—Mitsui yn Rhydaman—dros 100. Mae'n rhestr hir iawn ac wrth gwrs, mae gan y cwmnïau hynny eu cadwyni cyflenwi eu hunain yn ogystal. Felly, mae yna effaith ganlyniadol. Heb amheuaeth, bydd rhai cwmnïau yn gallu trosglwyddo i gwsmeriaid newydd, o ystyried yr amser cymharol hir cyn cau'r ffatri yn Swindon. Ond yn sicr, bydd llawer yn ei chael yn anodd iawn i sicrhau cytundebau yn lle'r un gyda Honda, yn enwedig os yw'r contractau hynny'n ffurfio cyfran fawr o gyfanswm eu gwaith. Felly, a allai'r Dirprwy Weinidog amlinellu natur y gwaith a fydd yn mynd rhagddo yn awr gyda'r sector i asesu effaith cyhoeddiad Honda, ac amlinellu pa fathau o becynnau cymorth y mae'r Llywodraeth yn ystyried eu datblygu ar y cam hwn? A allai ddweud wrthym pa gymorth penodol sy'n cael ei archwilio i gynorthwyo gyda throsglwyddo i gontractau newydd, a throsglwyddo i dechnolegau modurol newydd, gan gynnwys gyriant cenhedlaeth newydd? Oherwydd, mewn gwirionedd, gallai llawer o'n harbenigedd yma ym maes electroneg—sglodion ac ati—fod yn sylfaen dda ar gyfer diwydiant modurol yn y DU yn y dyfodol—diwydiant sy'n cael ei fygwth gan Brexit, wrth gwrs.
Nawr, er bod Honda yn dweud nad Brexit yw'r rheswm dros eu penderfyniad, mae digon o dystiolaeth i ddangos bod ansicrwydd a nerfusrwydd ynghylch Brexit wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan wneuthurwyr ceir a chydrannau i ddad-fuddsoddi yn y DU yn y misoedd diweddar. Wrth gwrs, mae yna ddigon o rybuddion am ganlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen' i'r diwydiant cynhyrchu ceir yn y DU. Nawr, bydd y Dirprwy Weinidog wedi darllen adroddiadau, fel finnau, am gronfa—a fedyddiwyd yn 'Kingfisher' gan Ganghellor y DU—i gryfhau'r economi yn sgil Brexit 'dim bargen'. Nawr, pe bai'r paratoadau ar gyfer Brexit yn dryloyw, fel y dylent fod, rwy'n siŵr y byddai'r Trysorlys eisoes wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gallai cronfa o'r fath weithio yng Nghymru, beth fyddai'r blaenoriaethau, ac ati. Nid wyf yn dal fy ngwynt, ond rwyf am ofyn, serch hynny, pa drafodaethau a allai fod wedi'u cynnal. Yn benodol, pa lefel o gyllid a allai fod ar gael gan 'Kingfisher', neu unrhyw gronfa arall o ran hynny, i'r diwydiant modurol yng Nghymru? Hefyd, a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael unrhyw ddylanwad dros y modd y caiff y cronfeydd hynny eu gwario? Hefyd, sut y disgwylir i gwmnïau gwahanol a gwahanol sectorau, gan gynnwys y sector modurol, gael mynediad at yr arian hwnnw?