6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:01, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad 'Busnes Pawb' ar atal hunanladdiad yng Nghymru. Ac rwy'n croesawu'r ddadl heddiw. Mae wedi bod yn anodd ond yn bwysig ac yn gam ymlaen ar drafod y mater mewn modd aeddfed a sensitif iawn ar y cyfan, oherwydd mae gwella iechyd meddwl a lles meddyliol ac atal hunanladdiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Mae'r argymhellion yn cyd-fynd yn fras â'r rhai yn adolygiad canol tymor y strategaeth 'Siarad â fi 2'. Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda'r grŵp cynghori cenedlaethol ar gyfer cyflawni'r rhain. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth bellach, a fydd yn helpu i lywio ein rhaglen waith, i gynyddu ei heffaith ar leihau hunanladdiad yma yng Nghymru.

Roeddwn yn falch o gytuno neu gytuno mewn egwyddor â'r holl argymhellion, ac rwyf am grynhoi rhai o'r prif gamau gweithredu sy'n deillio o'r ymchwiliad. Dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol o'r camau rydym wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella'r gwaith o atal hunanladdiad drwy 'Siarad â fi 2'. Rwy'n dal yn benderfynol o gryfhau ein dull o atal hunanladdiad, oherwydd, er ein bod wedi dod yn bell, rwy'n cydnabod bod llawer iawn mwy y gellir ei wneud.

Roeddwn yn falch o gyhoeddi £500,000 o arian ychwanegol bob blwyddyn yn y gynhadledd genedlaethol ddiweddar ar atal hunanladdiad tuag at gefnogi dulliau cenedlaethol a rhanbarthol i helpu i atal hunanladdiad a hunan-niwed. Defnyddir y cyllid ychwanegol hwn yn rhannol i recriwtio arweinydd cenedlaethol a thri arweinydd rhanbarthol ledled Cymru i gydlynu a gyrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen ac i gefnogi monitro a gweithredu cynlluniau lleol. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried hwnnw fel arian ar wahân. Mae ein dull ehangach o wella iechyd meddwl a lles meddyliol a gwella mynediad at wasanaethau yn helpu i gefnogi'r dyhead sydd gan bawb ohonom. Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o GIG Cymru. Caiff gwariant ar iechyd meddwl ei neilltuo yng Nghymru, a dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi sicrhau cynnydd pellach o £20 miliwn i £655 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac mae hynny wedi cynnwys cyllid wedi'i dargedu tuag at wella mynediad at nifer o feysydd penodol, gan gynnwys iechyd meddwl pobl hŷn, gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, therapïau seicolegol ar gyfer oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned a'r gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a gofal sylfaenol lleol.

Mae gwella mynediad at ofal y tu allan i oriau a gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth ar gyfer ein cronfa trawsnewid iechyd meddwl. Yn ddiweddar rydym wedi ymrwymo £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth o ddulliau i wella cymorth, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt, cymorth mewn argyfwng a brysbennu ar y stryd. A nodwyd bod gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn faes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y flwyddyn i ddod. Felly, rydym yn gweithio gydag ystod o asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol, i bennu'r dull mwyaf effeithiol o dargedu'r buddsoddiad hwn.

Bydd y £7.1 miliwn ychwanegol y flwyddyn a gyhoeddais yn ddiweddar yn adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol ac yn ceisio sicrhau gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond caiff ei ddefnyddio hefyd i gefnogi'r dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a lles meddyliol emosiynol, oherwydd rydym yn hyderus y bydd dull ysgol gyfan yn helpu i sicrhau bod iechyd meddwl a lles meddyliol yn dod yn ganolog i'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio ac y bydd ethos yr ysgol yn cefnogi iechyd meddwl a lles meddyliol ehangach dysgwyr.

Ac mewn ymateb i un o bwyntiau Lynne Neagle, gallaf ddweud bod y Gweinidog Addysg a minnau yn disgwyl gallu cyhoeddi canllawiau i ysgolion ar siarad am hunanladdiad ym mis Ebrill eleni. Ar bwynt gwahanol, sy'n ymwneud â phobl ifanc yn hytrach na phlant, bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ar gymorth ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl mewn addysg uwch.

Mae cael cyfle i fwydo eu safbwyntiau i mewn yn uniongyrchol yn ganolog i'n dull o weithredu gyda phlant a phobl ifanc. Felly, rydym yn gweithio gyda Plant yng Nghymru a'r GIG i gynnull grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf y mis hwn, i weithio ochr yn ochr â ni a'n cynghori wrth i'r gweithgaredd fynd rhagddo. Fel rhan o'n hymdrech barhaus i wella gwybodaeth a sgiliau staff rheng flaen, gan gynnwys meddygon teulu, drwy weithredu fframwaith hyfforddi, byddwn yn cynnwys darparu gwybodaeth i wasanaethau allu gwneud penderfyniadau gwybodus am hyfforddiant priodol ar gyfer eu hanghenion.

Rydym yn cydnabod yr angen i sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar gyfer y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad. Mae peth her yn gysylltiedig ag iaith, ac nid wyf yn siŵr y bydd pawb yn deall beth y mae ôl-ymyrraeth yn ei olygu, ond rydym yn sôn am y gefnogaeth a ddarparwn. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r cymorth sy'n bodoli eisoes ac i dargedu buddsoddiad lle mae ei angen, ac rwy'n disgwyl y bydd angen buddsoddiad pellach. Yn sicr, nid yw hynny'n cael ei wthio o'r neilltu. Rwyf wedi ymrwymo i wella sut rydym yn gwella cymorth, nid pa un a ddylem wneud hynny, ac rwy'n cydnabod bod y pwyllgor yn disgwyl gweld camau ar waith o fewn cyfnod rhesymol o amser, ac nid nifer o flynyddoedd o aros.

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithredu'r llwybr cymorth ar ôl hunanladdiad a gwella ymwybyddiaeth o adnoddau, gan gynnwys 'Cymorth wrth Law', ac a bod yn deg, mae'r ymchwiliad hwn wedi gwneud gwahaniaeth drwy wneud yn siŵr fod y cymorth hwnnw'n llawer mwy hygyrch ar-lein, ac ar ffurf copi caled, i gefnogi pobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad. Byddwn yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i thargedu at staff rheng flaen yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys meddygon teulu, staff y gwasanaeth ambiwlans a chlinigwyr adrannau damweiniau ac achosion brys. Y nod yw sicrhau y gall gwasanaethau rheng flaen ymateb yn briodol ac yn sensitif i bobl mewn trallod.

Un o'r argymhellion yn yr adroddiad oedd darparu un pwynt mynediad i help a chymorth. Roeddwn yn falch o gefnogi'r grŵp cynghori cenedlaethol gyda lansio eu gwefan newydd ar 30 Ionawr eleni. Mae'r wefan yn anelu i wella mynediad at gymorth a galluogi pobl i gael mynediad at gyngor a gwybodaeth. Bydd yn cynnwys adrannau ar gyfer gweithleoedd, plant, pobl ifanc, ysgolion, rhieni, y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r rhai sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad.

Y cam cyntaf i ddarparu cymorth priodol a digonol yw cynorthwyo pobl i siarad am broblemau iechyd meddwl. Mae codi ymwybyddiaeth, a mynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, yn ganolog i 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Siarad â fi 2', ac yn thema y mae nifer wedi'i chrybwyll yn eu cyfraniadau heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr cryf i ymgyrchoedd dan arweiniad y sector gwirfoddol i  wneud yn union hynny.

Rwy'n deall bod pobl yn pryderu ynglŷn â'r effaith y gall cyfryngau cymdeithasol ei chael ar iechyd meddwl hefyd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd ein prif swyddog meddygol, ynghyd â chymheiriaid ledled y DU, gyngor a oedd yn cydnabod y gall amser sgrin a chyfryngau cymdeithasol fod yn fuddiol. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlygu effaith amser sgrin ar ddatblygiad plant iach, megis ymarfer corff a chysgu, ac yn herio'r diwydiant i gael cod ymddygiad gwirfoddol i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein.

Nawr, rwy'n cydnabod cysylltiadau penodol hunanladdiad yn y gymuned ffermio, fel y crybwyllwyd gennym heddiw yn y ddadl hon, ond hefyd yn fy ymddangosiad gerbron y pwyllgor iechyd y bore yma. Mae'n un o nodweddion ein gwaith presennol ac yn y dyfodol i wella'r cymorth ymarferol sydd ar gael. Amlygodd adroddiad y pwyllgor hunanladdiad ymhlith dynion fel blaenoriaeth genedlaethol—unwaith eto, soniodd nifer o'r Aelodau am hynny. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd nodi cymorth, ac mae gennym amrywiaeth o raglenni eisoes ar waith i helpu i gynorthwyo dynion. Mae cyfnod 3 o ymgyrch gwrth-stigma Amser i Newid Cymru, ymgyrch rydym yn ei hariannu ar y cyd, yn canolbwyntio ar ddynion canol oed ar gyfer y cyfnod nesaf. Rydym hefyd yn darparu cyllid i sefydliadau trydydd sector drwy grantiau iechyd meddwl adran 64 i ategu a gwella'r gwasanaethau a ddarperir eisoes gan GIG Cymru ac awdurdodau lleol.

Dau gynllun penodol rydym yn eu hariannu ar hyn o bryd yw Siediau Dynon, i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a'r Samariaid, sy'n canolbwyntio ar atal hunanladdiad, tra bydd swyddogion y Llywodraeth yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â'r grŵp cynghori cenedlaethol. A chan fod yr holl ranbarthau o Gymru wedi datblygu eu cynlluniau lleol, bydd swyddogion yn datblygu canllawiau adrodd cliriach i fonitro gweithredu camau lleol ochr yn ochr â gwaith cenedlaethol. Mae gennym raglen waith ddifrifol a all wneud gwahaniaeth go iawn. Edrychaf ymlaen at roi diweddariadau pellach ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.