Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ôl cerdded i lawr y mynydd uchaf ym Maesteg y bore yma i waelod y cwm i ddal y trên yma i Gaerdydd, ac yna seiclo ar hyd y ffordd yma i weithio, rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar deithio llesol, gyda chymorth Aelodau o wahanol bleidiau ar draws y Siambr.
Nawr, gwyddom fod gan Gymru beth o'r ddeddfwriaeth fwyaf arloesol a phellgyrhaeddol sydd gan unrhyw wlad ar hyn, gan osod fframwaith polisi sy'n ein galluogi i wneud penderfyniadau'n wahanol iawn ar gyfer y tymor hir, nid yn unig ar gyfer heddiw, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn ogystal â hon, ac ar gyfer buddsoddi mewn lles a ffyrdd o fyw egnïol ac iach, ac ar gyfer twf economaidd gwirioneddol gynaliadwy. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ddwy Ddeddf bellweledol iawn, wedi gosod y sylfeini i ni allu gwneud penderfyniadau mewn ffordd wahanol iawn.
Felly, mae'r ddadl hon yn ymwneud â gosod her i Lywodraeth Cymru ac i'r Gweinidog newydd—croeso iddo i'w swydd—rychwantu'r bwlch rhwng yr amcanion clodwiw a nodir yn ein deddfwriaeth sy'n arwain y byd a realiti'r ddarpariaeth ar lawr gwlad. Nawr, ar ôl rhoi'r fframwaith polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ar waith, gallaf grynhoi fy nghais i'r Gweinidog mewn tri gair byr: cyflawni, cyflawni, cyflawni.
Gadewch i mi droi yn gyntaf oll at deithio llesol a'r nodau llesiant. Mae teithio llesol yn cyfrannu mwy at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth. Mae'n helpu'r economi drwy leihau tagfeydd, yr amcangyfrifir eu bod ar hyn o bryd yn costio £2 biliwn y flwyddyn i Gymru, a thrwy wella iechyd y gweithlu. Mae'n cyfrannu at gydnerthedd drwy leihau allyriadau, at gydraddoldeb drwy ddarparu dull trafnidiaeth rhad, mae'n helpu cydlyniant cymunedol drwy alluogi pobl i ryngweithio'n haws, ac yn yr un modd mae'n ei gwneud yn haws ac yn rhatach i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Ac mae iddo gyrhaeddiad byd-eang, gydag effaith fyd-eang drwy helpu pobl i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ond ei gyfraniad mwyaf yw Cymru iachach.