Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 20 Chwefror 2019.
Wrth wraidd y cwynion a gawn gan rieni ac arweinwyr ysgolion, fodd bynnag, mae'r hyn y maent yn dechrau ei weld—[Torri ar draws.]—mae'r hyn rydym yn dechrau ei weld fel annhegwch o ran ariannu rhwng ysgolion o fewn yr un awdurdod lleol, heb sôn am gymharu â siroedd eraill, ynghyd â pheth gofid ynghylch ffyrdd newydd o ariannu, nad ydynt bob amser yn cyflawni eu blaenoriaethau—blaenoriaethau sy'n aml yn codi oherwydd galwadau gan y Llywodraeth. A dyna pam y cyflwynasom y ddadl hon: er mwyn canfod y dystiolaeth y tu ôl i'r dryswch ac i annog y Gweinidog i ddweud wrthym am y rhesymau sydd ganddi dros fynd â ni i'r sefyllfa hon—sefyllfa yr ymddengys ei bod yn fodlon â hi yn ôl gwelliant y Llywodraeth. Wel, nid yw ein hetholwyr, arweinwyr ysgolion, cynghorau a rhieni yn fodlon. Dyna pam y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i ariannu ysgolion—ymchwiliad y gobeithiwn y byddai'r ddadl hon yn ei helpu. A dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth i'r ddadl hon. Roeddwn yn gobeithio y byddai hyn yn ymwneud â syniadau, ond mae dileu'r cynnig cyfan a dweud bod popeth yn iawn oherwydd y canllawiau, wedi methu'r pwynt yn llwyr fod ein hetholwyr yn cael trafferth gydag ariannu ysgolion er gwaethaf y canllawiau hyn. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant.
Mae'r pwynt cyntaf yn methu mynd i'r afael â'r diffyg tryloywder ynglŷn â beth sy'n digwydd rhwng cyfrifo'r ffigur asesu seiliedig ar ddangosydd a'r gwariant gwirioneddol ar ysgolion gan lywodraeth leol. Cyhoeddwyd y rheoliadau sy'n darparu'r canllawiau yn 2010, ac eto ni wnaeth y canllaw cwestiynau cyffredin y cyfeirir ato yng ngwelliant 2 ymddangos nes mis Medi 2018, pan oeddem ar fin gwneud ein hymchwiliad pwyllgor, rhaid i mi ychwanegu. Ac o ran eu hansawdd, yr ateb i'r cwestiwn allweddol, 'Sut fedra' i fod yn siŵr bod y dyraniad cyllid ar gyfer fy ysgol i yn gywir?', yw 'dylech gysylltu â'ch awdurdod'.
Mae trydydd pwynt y gwelliant yn dweud bod y canllawiau yn unol â dogfen bolisi 'Cenhadaeth ein Cenedl'. Ac efallai fod hynny'n wir, ond ddoe, yn y ddadl Estyn, Weinidog, fe fethoch yn llwyr â mynd i'r afael â fy mhwyntiau am archwilio a rheoli risg prosesau gwerthuso cyfredol, gan ddewis siarad am y rhai newydd y byddech yn eu cyflwyno. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw eto heddiw. Hoffwn i chi ddweud wrthym yn union sut rydych yn gwerthuso effeithiolrwydd y ffrydiau ariannu penodol yn erbyn eich amcanion polisi a sut y caiff y prosesau gwerthuso hynny eu harchwilio gan eich swyddogion ac archwilwyr allanol i weld a ydynt yn addas i'r diben.
Felly, gadewch i ni gael golwg ar pam y mae ein hetholwyr yn ddryslyd. Mae eich ffigurau tybiannol eisoes yn ystyried yr hyn rydych yn ei ddisgwyl yn y grant bloc, Weinidog. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ychydig mwy nag a ragwelwyd, sy'n egluro'r cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer 2018-19, y flwyddyn sydd newydd ddod i ben, a chyda'r sylwadau hyn mewn cof, cyfrifodd y Llywodraeth fod y gyllideb gros dybiannol ar gyfer ysgolion i'w chynnwys yn y grant cynnal refeniw yn £2.56 biliwn, gyda ffigur tybiannol o £2.24 biliwn i'w ddirprwyo i'r ysgolion eu hunain. Mewn gwirionedd, cafodd yr ysgolion £2.16 biliwn. Felly pam oedd awdurdodau lleol yn meddwl bod angen llai ar ysgolion nag y credech chi fod ei angen arnynt?
Teimlai cyngor Sir Gaerfyrddin y gallai wario £4 miliwn yn llai nag y credech chi fod ei angen arnynt. Gwariodd Sir Benfro, lle mae un o bob 10 ysgol gynradd a 37 y cant o'r ysgolion uwchradd yn y categori coch, £1.6 miliwn yn llai ar ysgolion nag credech chi y dylent ei wneud. A hyn cyn inni gyrraedd yr amrywio enfawr o ran faint y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog. Ym Mhowys, mae hwnnw'n 25 y cant, ac yng Nghaerdydd mae'n 10 y cant. Ac er bod rhesymau dealladwy iawn am hynny, o ran natur wledig a theneurwydd poblogaeth, mae natur wledig a theneurwydd poblogaeth yn effeithio ar yr ysgolion eu hunain lawn cymaint â'r ddarpariaeth o wasanaethau canolog, felly onid ydynt hwy angen rhagor hefyd? Rydych yn dechrau gweld pam rwy'n gofyn cwestiynau am eich prosesau mewnol o werthuso effeithiolrwydd y modd y gweithredir eich penderfyniadau.
Mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn beio'r ffaith na chaiff cyllid ysgolion ei neilltuo, fel y gwyddoch. Yr hyn a welaf i yw tueddiad cynyddol i osgoi llwybr y grant cynnal refeniw oherwydd nad ydych yn ymddiried yn ddigonol yn y cynghorau i wario digon o'r hyn a roddwch iddynt ar ysgolion, ac ni allwch wynebu'r frwydr. Ond nid yw llywio arian drwy grantiau canolog a chonsortia yn mynd i lawr yn dda chwaith. Mae'n dechrau edrych fel tacteg sefydledig Llywodraeth Cymru o ranbartholi'n llechwraidd. Mae'r consortia'n cyfeirio'r gwariant o £230 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn brigdorri eu cyllidebau ysgol i gyfrannu tuag at hynny. Mae'n ymddangos nad yw'r grant datblygu disgyblion, y credaf ei fod yn syniad gwerthfawr, wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad yn y ffordd y credwn y byddai'n ei wneud ar y cychwyn. A'r £139 miliwn ar gyfer gwella ysgolion—wel, nid wyf am ailadrodd y cyfan o'r ddadl ddoe; gwneuthum y pwynt nad yw'r amrywiol ffurfiau ar werthuso yn gyson ac nid ydynt yn arwain yn gyson at wella ysgolion sy'n methu. Felly, ymddengys bod £230 miliwn yn llawer iawn o arian am yr ychydig iawn a gyflawnwyd.
Mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi cyfrifo nad yw £450 miliwn o gyllideb addysg y Llywodraeth a allai fynd i ysgolion yn eu cyrraedd drwy unrhyw lwybr, i gyflawni eich blaenoriaethau hwy neu eich rhai chi. Ac rydych wedi dweud wrthym, Weinidog, ym mis Gorffennaf, eich bod yn edrych ar yr union bryder hwn am arian yn cael ei ddal yn ôl mewn awdurdodau lleol neu gonsortia ac yn methu cyrraedd ysgolion. Dywed Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru ei bod yn bryd cadw rheolaeth ar y consortia. Credaf ei bod yn bryd i chi rannu eich canfyddiadau ynglŷn â'r gwaith hwnnw gyda ni i weld a ydym yn cytuno gyda'r Undeb Addysg Cenedlaethol.
Nawr, hoffwn ddod yn ôl at y grant datblygu disgyblion am eiliad, oherwydd mae hon yn enghraifft dda yn fy marn i o pam rwy'n dod yn ôl at gwestiwn effeithiolrwydd, oherwydd rydym yn cefnogi diben y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, mae Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ac Estyn wedi mynegi pryderon ynglŷn â sut y mae'r arian wedi'i dargedu at gyflawnwyr isel a bod ein disgyblion mwy galluog a thalentog yn parhau i gael eu dal yn ôl gan eu cefndiroedd incwm isel. A gwelodd y pwyllgor rywbeth tebyg iawn. Felly, nid yw llythyr at ysgolion yn ddigon da. Sut ydych yn bwriadu sicrhau tystiolaeth o ddefnydd mwy effeithiol o'r arian hwn ar draws yr ystod gallu, yn enwedig gan y bydd rhagor o blant bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y newidiadau i'r credyd cynhwysol? Rydym yn derbyn na ellir gwario'r grant datblygu disgyblion mewn gwagle ac os ceir budd achlysurol i blant nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim, wel, mae hynny'n iawn, ond credaf fod yn rhaid i chi ofyn, Weinidog, a yw defnyddio'r grant datblygu disgyblion i gyflogi cynorthwywyr addysgu yn dechrau celu'r ffaith mewn gwirionedd nad oes gan ysgolion gyllid craidd i gyflogi staff o gwbl.
Nawr, gadewch i ni gymharu dwy ysgol gynradd yn ardal un cyngor yn fy rhanbarth i, ac mae'r ddwy yn y categori gwyrdd. Mae gofyniad grant datblygu disgyblion uchel gan un ohonynt, digon o staff ymroddedig a chymeradwyaeth gynnes gan Estyn, ac mae'n ei haeddu. Mae gofyniad grant datblygu disgyblion y llall yn isel, mae ganddi nifer tebyg o fyfyrwyr, ond mae'n edrych ar ddiswyddo'i staff ymroddedig ac yn gofyn i rieni dalu am offer. Mae'n dal i gael cymeradwyaeth gan Estyn.
Yn gryno, dyma y mae'r ysgol honno yn ei ddweud, ac rwy'n ei grynhoi: 'Mae'n ymddangos bod tybiaeth ar ran y Llywodraeth y bydd rhieni'n gwneud iawn am y diffyg cyllid. Nid yw ein disgyblion a disgyblion mewn ysgolion tebyg yn cael cymaint o adnoddau neu ddarpariaeth ag ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae hyn wedi arwain at'—a dyma'r rhestr—'ddiswyddo staff; toriadau o ran gwariant ac adnoddau, safle, iechyd a diogelwch, felly nid yw disgyblion bellach yn cael cymorth yn y dosbarth; nid ydym bellach yn gallu cynnal athro cymwysedig yn ein dosbarth meithrin; nid ydym yn gallu cyllido athro cymwysedig i lenwi dros amser cynllunio, paratoi ac asesu statudol i bob aelod o staff'. Maent yn ystyried torri oriau ysgol am hanner diwrnod yr wythnos er mwyn rhoi'r amser cynllunio, paratoi ac asesu y mae ganddynt hawl gyfreithiol iddo i athrawon. 'Prinder cynorthwywyr addysgu i fodloni'r cymarebau a argymhellir ar gyfer y cyfnod sylfaen; nid oes arian ar gyfer swyddog lles neu swyddog presenoldeb wedi'i hyfforddi'n briodol; nid yw'r uwch dîm rheoli yn cael amser rheoli; nid oes digon o adnoddau i staff allu gwneud eu gwaith; nid yw disgyblion yn cael cymorth yn y dosbarth mwyach; mae cyflwr yr adeilad a'r tir yn dirywio; mae'r gofalwr yn rhan-amser; os yw cynorthwywyr addysgu'n absennol oherwydd salwch, anaml y ceir cynorthwywyr addysgu yn eu lle yn y tymor byr; os yw staff addysgu'n absennol oherwydd salwch, ni cheir neb yn eu lle ar y cychwyn, ac wedi hynny caiff eu gwaith ei rannu rhwng aelodau eraill o staff, gan gynyddu maint dosbarthiadau ac achosi problemau llwyth gwaith'—[Torri ar draws.] Iawn, diolch.