Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Yn sicr cafwyd newid gêr eleni o ran nifer y cwynion gan ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â thanariannu. Nid yw cynghorau yn fodlon gadael i'r Llywodraeth hon gael rhwydd hynt mwyach i feio popeth ar gyni fel y'i gelwir, ac yn wir ni allant wneud hynny, oherwydd mae'r cyllid gwaelodol, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr hynny, yn golygu bod Cymru—. Yma cawn £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr.