8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:21, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r ffigur yn anghywir ac mae'n dangos diffyg dealltwriaeth o'r modd y caiff Cymru ei hariannu. Os edrychwch ar gyllid wedi'i nodi a chyllid nad yw wedi'i nodi, maent yn dangos bod y ffigur sy'n dod i Gymru yn sylweddol is na hynny ac mae'n is na'r hyn sy'n mynd i Lundain. Felly, nid yw pedlera'r 120c am bob 100c sy'n mynd i Loegr yn wir o gwbl.