Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Mawrth 2019.
Dwi heddiw yn sôn am y broses, nid yr egwyddor, o symud gwasanaethau brys o Fangor—ond am y broses ei hun—a sut y cyrhaeddwyd at y penderfyniad. Yn y gwanwyn y llynedd, fe roddodd y bwrdd iechyd ei sêl bendith i gadw gwasanaethau brys ym Mangor, ac fel gafodd holl feddygon teulu yr ardal lythyr yn dweud hyn. Dydy'r bwrdd ddim wedi newid y penderfyniad yma, ac mewn datganiadau di-ri, mae hi, ysywaeth, yn amlwg fod y gwasanaethau fascwlaidd brys yn cael eu symud o Fangor. Dwi'n gofyn eto felly, os gwelwch yn dda: pryd y cafwyd y newid meddwl yma? Dŷch chi'n sôn am 2013; yn 2018 fe newidiwyd meddwl. Pryd aed yn ôl felly at y penderfyniad gwreiddiol yn 2013, ac a fedrwch chi ddangos i mi lle mae'r cofnod ar gyfer hwnnw ym mhapurau'r bwrdd?