Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:45, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog—efallai fod gennym ni wahanol werthoedd, ond rwy'n credu mai'r flaenoriaeth i'r Prif Weinidog yw bod yma i ateb cwestiynau gan gynrychiolwyr etholedig Cymru. Does bosib nad dyna yw diben cael y Senedd hon yn y lle cyntaf.

Nawr, ar draws y DU, 5 y cant yw'r targed misol ar gyfer pobl sy'n aros mwy na phedair awr am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Unwaith eto, mae perfformiad yr Alban yn well na Chymru a Lloegr hefyd—