Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch, Llywydd. Roedd derbyniadau brys 9 y cant yn uwch ym mis Ionawr 2019 nag ym mis Ionawr 2015 mewn adrannau achosion brys mawr. Hefyd, bu cynnydd o 16 y cant i bresenoldeb mewn adrannau achosion brys mawr o'u cymharu â mis Ionawr 2015. Mae'n rhaid i mi ddweud y bu'n rhaid i mi, yn anffodus, fynd i adran achosion brys yn Ysbyty'r Mynydd Bychan tua mis yn ôl, ac wrth siarad â'r staff yno, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cael gwybod am dderbyniadau ac ati, ac roedd un o'r meddygon ymgynghorol yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael, dros y penwythnos, 10 o bobl a oedd yn agos at eu 100 oed—dros 90 oed, ond yn nes at 100, ac roedd hi'n dweud bod hynny'n ddigynsail. Felly, yn amlwg, mae'r boblogaeth sy'n heneiddio hefyd yn cael effaith.