Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 5 Mawrth 2019.
Rwy'n credu bod yn rhaid i chi dderbyn bod y rhan fwyaf o reolwyr tir yn ffermwyr—mae'n well gen i'r gair 'ffermwyr'—ac nid wyf i'n credu y byddwn ni'n gweld y miloedd o bobl hyn yn gwneud ceisiadau am y cyllid. Rwyf i wedi clywed y bydd pobl â rhandiroedd yn gallu gwneud cais, er enghraifft; mae hynny'n gwbl anghywir. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw bod Llywodraeth y DU yn rhoi pob ceiniog i ni y byddem ni wedi ei chael fel gwlad gan yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r wyf i'n eu dal nhw iddo, ac yna gallwn wneud ein penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac rwyf i wedi dweud o'r cychwyn bod yn rhaid i'r cynlluniau newydd fod ar waith cyn i ni ddiddymu'r cynllun taliadau sylfaenol.