Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:54, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Ie. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffactorau yr ydych chi'n sôn amdanynt; wrth gwrs bod ansicrwydd. Mae'n ymddangos i mi efallai bod union natur yr ansicrwydd yn dangos yr angen i symud tuag at gyflymder pontio arafach wrth i ni gyflwyno cynllun taliadau newydd. Mater arall sy'n codi, o dan gynigion presennol Llywodraeth Cymru, yw y gallai'r symudiad o daliadau i ffermwyr gweithredol i gategori ehangach, yr ydym ni'n ei alw'n 'rheolwyr tir', hefyd arwain at nifer o filoedd yn fwy o bobl sy'n gymwys i gael taliadau gan Lywodraeth Cymru. Felly, a ydych chi'n gwbl ffyddiog, o ystyried hefyd yr ansicrwydd yr ydych chi wedi cyfeirio ato heddiw, y bydd gennych chi ddigon o adnoddau i ymdrin â'r ceisiadau am daliadau pan fyddan nhw'n dechrau dod i mewn i'ch adran?