Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch. Bydd amrywiaeth o fesurau yn cael eu defnyddio. Bydd y rhain yn cynnwys dangosyddion allweddol, fel data cyflogaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud ag effaith ar iechyd, llesiant a dyheadau. Mae'r tasglu yn bwrw ymlaen â nifer o ymrwymiadau allweddol yng Nghaerffili, a bydd eu heffaith yn ffurfio rhan o'r gwerthusiad.