Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch. Rydym ni'n siomedig gyda phenderfyniadau buddsoddi diweddar Llywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae morlyn llanw bae Abertawe, trydaneiddio prif reilffordd Abertawe, a methiant i sicrhau prosiect Wylfa Newydd yn dair enghraifft ddiweddar o fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith nad yw wedi ei ddatganoli yng Nghymru.