1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mawrth 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y canlyniadau i Gymru pe bai Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o fuddsoddiad arfaethedig yn seilwaith Cymru? OAQ53508
Diolch. Rydym ni'n siomedig gyda phenderfyniadau buddsoddi diweddar Llywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae morlyn llanw bae Abertawe, trydaneiddio prif reilffordd Abertawe, a methiant i sicrhau prosiect Wylfa Newydd yn dair enghraifft ddiweddar o fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith nad yw wedi ei ddatganoli yng Nghymru.
Diolchaf i chi am hynna, ac rwy'n rhannu eich siom enfawr, fel y gwn y mae llawer o Aelodau yn yr ystafell hon yn ei wneud. Mae'n siomedig iawn canfod faint mae economi Cymru ar ei cholled oherwydd i Lywodraeth y DU fethu â chadw addewidion ar y prosiectau hynny yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw. Ond rwyf i hefyd yn bryderus ynghylch sut y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu yn ôl o'r buddsoddiadau arfaethedig hynny yn seilwaith Cymru yn effeithio ar brentisiaethau a swyddi hyfforddi i raddedigion yng Nghymru. Mae hi'n Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol yr wythnos hon, wedi'r cyfan. Os cymharaf y penderfyniadau hynny i dynnu yn ôl â darpariaeth ein prosiect ni, ffordd osgoi y Drenewydd, roedd yn enghraifft dda iawn o greu prentisiaethau. Ac euthum i siarad â nhw, a chrëwyd 18 o'r prentisiaethau a'r swyddi hyfforddiant i raddedigion hynny o ganlyniad i ni'n mynd ymhellach. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn a wnewch chi ystyried, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried, sut y gallwn ni fwrw ymlaen ac annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi yng Nghymru a'r seilwaith yng Nghymru, fel y gallwn ni roi gobaith i'r bobl hynny y dylen ni fod yn diogelu eu dyfodol?
Diolch. Credaf eich bod chi yn llygad eich lle—mae colli'r prosiectau seilwaith sylweddol iawn hyn i Gymru yn mynd i fod yn ergyd enfawr i lawer o bobl ifanc, oherwydd rwy'n credu y byddai'r tri phrosiect y cyfeiriais atyn nhw yn cynnig cyfleoedd gyrfaol sylweddol i bobl ifanc. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo ein pobl ifanc ledled Cymru i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Soniasoch ei bod hi'n Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol yr wythnos hon. Yn amlwg, mae gennym ni ein targed o 100,000 o brentisiaid yn ystod y tymor Cynulliad hwn, ac rydym ni'n sicr ar y trywydd iawn yn hynny o beth.
Rydych chi'n holi ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i annog Llywodraeth y DU. Wel, mae'r Prif Weinidog yn ysgrifennu'n aml, rwy'n credu, at Weinidogion Llywodraeth y DU; gwn ei fod wedi ysgrifennu at Greg Clark am seilwaith ynni. Rydym ni'n parhau i ystyried ffyrdd o atgyfodi cynlluniau ar gyfer morlyn bae Abertawe. Mae Wylfa Newydd, yn amlwg, wedi'i rewi, ac rydym ni'n parhau i geisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynghylch hynny. A hefyd, o ran trydaneiddio Abertawe, gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfarfod â swyddogion cyfatebol, yn ogystal â chael ymgysylltu gweinidogol, i geisio bwrw ymlaen â hynny hefyd.
Cytunwyd bargen ddinesig prifddinas Caerdydd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a 10 o awdurdodau lleol yn ôl ym mis Mawrth 2016, ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod hon yn enghraifft dda o Lywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu prosiectau seilwaith mawr. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd Llywodraeth y DU yn darparu cannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid i fargeinion twf ledled Cymru, gan gynnwys yn fy ardal i yn y canolbarth hefyd, ac, yn ei dro, bydd y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ddarparu seilwaith newydd a seilwaith trafnidiaeth ar gyfer prosiectau yn y dyfodol hefyd. A wnaiff y Gweinidog gydnabod heddiw cymorth ariannol Llywodraeth y DU i fargeinion twf a chroesawu'r cyfraniad y bydd y cyllid hwn, yn ei dro, yn ei wneud i welliant hirdymor seilwaith trafnidiaeth trwy Gymru gyfan?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael yr arian a fwriedir ar gyfer y bargeinion twf hynny. Gwn fod pryderon am hynny i fyny yn y gogledd, yn sicr. Ond mae gan brosiect prifddinas Caerdydd ac Abertawe gefnogaeth y ddwy Lywodraeth.
Mae effaith cyfres, catalog erbyn hyn, o fethiannau o ran buddsoddi yng Nghymru yn helaeth—y prosiectau mawr y cyfeiriwyd atynt gan fy nghyd-Aelodau, ond maen nhw hefyd yn cael effeithiau lleol. Yn etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, mae'r buddsoddiad sydd ei angen arnom ni yn y brif reilffordd, ond hefyd mewn signalau, ac ati, yn fesur o danfuddsoddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan UK Network Rail. Nawr, rydym ni angen i Lywodraeth y DU a'r Adran Drafnidiaeth gamu ymlaen o ran y prosiectau hynny hefyd, a chyflwyno'r arian a fydd yn rhyddhau capasiti ar ein prif reilffordd, a fydd yn caniatáu i fwy o deithwyr a nwyddau gael eu cludo, a fydd yn symud pobl oddi ar y ffyrdd hynny. Felly, nid yw'n fater o brosiectau mawr yn unig. A byddwn yn awgrymu i'r Gweinidog, yn ei thrafodaethau gyda'r Prif Weinidog, efallai mewn trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU, Theresa May, y gellid gwneud apêl iddi—teitl hen ffasiwn y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol—os ydyn nhw eisiau ei gynnal fel undeb y Deyrnas Unedig, yna gwnewch fuddsoddiad gwirioneddol yn yr undeb.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt perthnasol iawn. Er bod gan lwybrau Network Rail Cymru 11 y cant o hyd y llwybr, 11 y cant o'r gorsafoedd ac 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd ledled Cymru a Lloegr, dim ond cyfartaledd o tua 2 y cant o arian a wariwyd ar welliannau rhwydwaith ledled Cymru a Lloegr ers 2011 sydd wedi ei wario yma. Dylai ymhell dros £1 biliwn fod wedi cael ei ddyrannu i ni yn y pum mlynedd diwethaf yn unig. Dychmygwch beth y gallem ni ei wneud â hynny.