Buddsoddiad Arfaethedig yn Seilwaith Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:39, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt perthnasol iawn. Er bod gan lwybrau Network Rail Cymru 11 y cant o hyd y llwybr, 11 y cant o'r gorsafoedd ac 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd ledled Cymru a Lloegr, dim ond cyfartaledd o tua 2 y cant o arian a wariwyd ar welliannau rhwydwaith ledled Cymru a Lloegr ers 2011 sydd wedi ei wario yma. Dylai ymhell dros £1 biliwn fod wedi cael ei ddyrannu i ni yn y pum mlynedd diwethaf yn unig. Dychmygwch beth y gallem ni ei wneud â hynny.