Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 5 Mawrth 2019.
Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o werthuso gwaith tasglu'r Cymoedd yng Nghaerffili ac mewn mannau eraill yw pennu amcanion a thargedau eglur fel y gall y Llywodraeth, sefydliadau a'r cyhoedd fesur cynnydd y strategaeth er budd tryloywder ac atebolrwydd? Ond nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. A wnewch chi esbonio pam, os gwelwch yn dda?