Pleidlais y Bobl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:16, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, ydy. Rydym wedi dweud hynny, a phleidleisiodd y Cynulliad hwn, yn amlwg, o blaid hynny yn ôl ym mis Ionawr. Rwyf i o'r farn eich bod yn hollol gywir am Ogledd Iwerddon. Dim ond ddoe fe wnaeth y Gweinidog cyllid ysgrifennu at Liz Truss ynglŷn â'r £140 miliwn ychwanegol sydd wedi ymddangos yn ôl pob tebyg yng nghyllideb Gogledd Iwerddon. Ac er nad oes gennym ni unrhyw wrthwynebiad i Ogledd Iwerddon yn cael mwy o arian, rydym o'r farn y dylai hynny ddigwydd ledled y DU, ac fe ddylem ni gael cyllid ychwanegol hefyd, a'r Alban.