1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mawrth 2019.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei ystyriaeth o'r angen am bleidlais y bobl ar y cytundeb i ymadael â'r UE? OAQ53529
Diolch. Rydym ni dair wythnos i ffwrdd o'r adeg pan ddisgwylir i ni adael yr UE ond yn ddim nes at gytundeb. Rydym ni wedi dweud ers tro, os bydd y Senedd yn dod i'r casgliad mai pleidlais gyhoeddus yw'r unig ffordd i ddatrys yr anghytundeb a symud ymlaen, y byddem ni'n ei chefnogi.
Diolch. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol i ddiystyru sefyllfa drychinebus 'dim cytundeb' a sicrhau bod yr anghytundeb llwyr yn San Steffan yn cael ei ddatrys? Felly, a yw hi'n cytuno â mi felly bod yn rhaid gwneud cytundeb Prif Weinidog y DU, sef, beth bynnag fo'i ddiffygion difrifol, yr unig un sydd ar gael, gael ei wneud yn destun pleidlais ymhlith y cyhoedd gyda'r dewis o dderbyn y cytundeb hwnnw a bwrw ymlaen â Brexit, neu gadw ein cytundeb presennol gyda llais, feto, aelodaeth lawn o'r farchnad sengl a'r undeb tollau a chyfranogiad llwyr yng ngweithdrefnau ymladd trosedd a diogelwch yr UE?
Diolch am y cwestiwn atodol yna. Rydym ni wedi dweud yn gyson y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus i Gymru, ac yn sicr nid ydym ni'n cefnogi'r cytundeb presennol y mae Prif Weinidog y DU wedi ei negodi.
O ran refferendwm, rwy'n credu ein bod ni wedi dweud yn gyson y dylem ni adael i Lywodraeth a Senedd y DU wneud eu gwaith—rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn amyneddgar iawn—a sicrhau cytundeb sydd o fudd i'r wlad, sy'n gallu ennyn mwyafrif yn y Senedd. Os na allan nhw wneud hynny, dylid rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl mewn refferendwm.
Mae'n ffaith, yn amlwg, bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad y refferendwm. Ond, os byddwch chi'n ystyried pleidlais y bobl fel dewis—ac rwyf i, yn un, nad wyf—pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r amser y byddai'n ei gymryd i drefnu pleidlais y bobl? Rwyf i wedi clywed ffigurau o chwech, 12, 18 mis. Does bosib na'r cwbl y byddai hynny'n ei wneud fyddai ychwanegu at yr ansicrwydd pe byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chefnogaeth i gynnig o'r fath, waeth pa mor ffôl y gallai hynny fod.
Rydym ni wedi parchu penderfyniad pobl Cymru erioed. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi pleidleisio dros adael, a dywedais yn fy ateb i Lynne Neagle fy mod i'n credu ein bod ni wedi bod yn anhygoel o amyneddgar. Rydym ni wedi ceisio dylanwadu ar drafodaethau yn y ffordd orau y gallwn. Fel Gweinidogion, rydym ni i gyd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau yn barhaus—rwy'n credu ei bod hi'n debygol y byddwch chi'n canfod ein bod ni mewn trafodaethau bob wythnos gyda'n cydweithwyr yn San Steffan. Felly, nid yw'n ymwneud â pheidio â pharchu'r penderfyniad, mae'n golygu gwneud yn siŵr nad ydym ni'n cael 'dim cytundeb' a bod gennym ni gytundeb sy'n dderbyniol ac, fel y dywedais i, sy'n llwyddo i ennill mwyafrif yn y Senedd. Nid yw'n ymddangos bod hynny am ddigwydd. Mae'n ymddangos mai'r cwbl y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud yw oedi er mwyn cyrraedd y terfyn amser; mae'n ymddangos ei bod hi'n rhoi'r bleidlais ystyrlon o'r neilltu, ac mae'n mynd i gael ei chynnal yr wythnos nesaf erbyn hyn. Rydym ni erbyn hyn, beth, tua 24 diwrnod o bryd y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Felly, o ran eich cwestiwn ynghylch refferendwm, mae'n amlwg bod llawer o drafodaethau i'w cynnal. Yn ôl ym mis Mehefin 2016, fel Llywodraeth, roeddem ni'n gefnogol o aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf i'n credu ein bod ni wedi gweld unrhyw beth a fyddai'n newid hynny, ond bydd llawer o drafodaeth am beth yw'r cwestiwn penodol, a phan fyddwn ni'n gwybod beth yw'r cwestiwn hwnnw, pe byddai pleidlais y bobl yn cael ei chynnal, yna byddem, wrth gwrs, yn cynnig ein cyngor ar hynny.
Mae'n amlwg iawn mai'r rheswm yr ydym ni yn y parlys cyfansoddiadol hwn yw bod gennym ni Lywodraeth sydd ond yn llwyddo i ddal ei gafael yn ei grym drwy lwgrwobrwyo 10 o Aelodau Seneddol Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn amlwg iawn y bydd refferendwm arall neu bleidlais arall yn cymryd o leiaf chwe mis. Felly, a ydych yn cytuno â mi mai un o'r amcanion allweddol ar hyn o bryd, o reidrwydd, yw estyniad i erthygl 50? Ni allwn gwblhau'r rhaglenni deddfwriaethol sy'n angenrheidiol i'w cwblhau, ac mae'r trafodaethau masnach mewn coblyn o lanastr. Byddai unrhyw un sy'n ystyried lles y genedl—gan roi gwleidyddiaeth i'r naill ochr, ac yn ystyried lles y genedl yn unig—yn dod i'r casgliad bod estyniad i erthygl 50 am o leiaf chwe mis yn gwbl hanfodol.
Yn sicr, ydy. Rydym wedi dweud hynny, a phleidleisiodd y Cynulliad hwn, yn amlwg, o blaid hynny yn ôl ym mis Ionawr. Rwyf i o'r farn eich bod yn hollol gywir am Ogledd Iwerddon. Dim ond ddoe fe wnaeth y Gweinidog cyllid ysgrifennu at Liz Truss ynglŷn â'r £140 miliwn ychwanegol sydd wedi ymddangos yn ôl pob tebyg yng nghyllideb Gogledd Iwerddon. Ac er nad oes gennym ni unrhyw wrthwynebiad i Ogledd Iwerddon yn cael mwy o arian, rydym o'r farn y dylai hynny ddigwydd ledled y DU, ac fe ddylem ni gael cyllid ychwanegol hefyd, a'r Alban.
Diolch i'r Gweinidog.