Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch. Rydym ni dair wythnos i ffwrdd o'r adeg pan ddisgwylir i ni adael yr UE ond yn ddim nes at gytundeb. Rydym ni wedi dweud ers tro, os bydd y Senedd yn dod i'r casgliad mai pleidlais gyhoeddus yw'r unig ffordd i ddatrys yr anghytundeb a symud ymlaen, y byddem ni'n ei chefnogi.