Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch am y cwestiwn atodol yna. Rydym ni wedi dweud yn gyson y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus i Gymru, ac yn sicr nid ydym ni'n cefnogi'r cytundeb presennol y mae Prif Weinidog y DU wedi ei negodi.
O ran refferendwm, rwy'n credu ein bod ni wedi dweud yn gyson y dylem ni adael i Lywodraeth a Senedd y DU wneud eu gwaith—rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn amyneddgar iawn—a sicrhau cytundeb sydd o fudd i'r wlad, sy'n gallu ennyn mwyafrif yn y Senedd. Os na allan nhw wneud hynny, dylid rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl mewn refferendwm.