Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 5 Mawrth 2019.
Dyma'r unig ffordd allan o'r cyfyngder paradocsaidd hwn trwy ba un yr ydym ni'n parhau i wibio ymlaen ac eto yn gwneud dim cynnydd. Os nad ydym ni'n gwneud cynnydd ar y mater hwn, yn fuan, bydd yn gyfle a gollwyd. 'Yn gyfle a gollwyd'. Rydym ni'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw gryn dipyn. Mor aml, yn wir, fel y credaf ein bod ni wedi colli golwg ar yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, sef ymdeimlad o frys, o golled. Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae cyfleoedd wedi eu colli. Nid yw gwelliannau cadarnhaol a allai fod wedi digwydd, wedi digwydd. Ac, i mi, dyna graidd Brexit.
Mewn economeg, rydym ni'n sôn am gost cyfle—bod gan bopeth a wneir gost o ran yr hyn na wneir. Mae pob maes o wariant cyhoeddus y mae'r Llywodraeth yn dewis dyrannu arian tuag ato yn golygu bod meysydd eraill yn cael llai. Ond sut ydych chi'n mesur cost y cyfleoedd hyn: o'r holl bethau na wnaed; o anwadalu; o addewidion na chawson nhw mo'u hanrhydeddu; yr holl bentyrrau deddfwriaeth; y cyllid y gallem ni fod wedi ei godi; gweithrediadau nad ydyn nhw wedi digwydd; y cyffuriau nad ydym ni wedi gallu eu prynu; bywydau ffrindiau Ewropeaidd sydd efallai wedi byw yn ein plith; yr ymdeimlad o berthyn, y cyfeillgarwch a'r perthnasoedd y gallem ni fod wedi eu datblygu gyda phobl sydd naill ai wedi gadael yr ynysoedd hyn neu erioed wedi dewis dod; y gallai a'r byddai a'r dylai; a'r pethau a allai fod wedi bod nad ydyn nhw wedi bod, gan fod Brexit wedi mynd â'n holl sylw?
Felly bydd, bydd yn gyfle a gollwyd os nad yw San Steffan yn gweithredu ar gorn y ddadl hon a'r ddadl y mae ein partneriaid yn yr Alban yn ei chynnal. Ac mae cost y cyfle hwnnw yn fwy trychinebus nag y gall unrhyw ystrydebau—'cyfleoedd a gollwyd'—byth eu cyfleu. Os nad oedd bygythiadau o ddim cytundeb yn ddim mwy na gêm barlwr i arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn San Steffan, cywilydd arnyn nhw. Maen nhw wedi costio mwy inni o ran adnoddau, amser, straen a cholli ffydd ac ewyllys da nag y gellir byth ei fesur.
Dyna pam y dylai'r Senedd hon ailddatgan heddiw ei hymrwymiad i gynnal pleidlais y bobl, cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Os nad ydym ni, ni fyddwn ni wedi symud ymlaen o gwbl, a pha arwydd y bydd hynny yn ei roi? Dylem ni wneud hynny i ddwyn y maen i'r wal ar y mater hwn unwaith ac am byth, ac fel y gallwn ni mewn gwirionedd ddechrau'r gwaith o ymdrin â'r rhesymau sylfaenol pam y digwyddodd y bleidlais hon mewn gwirionedd, gan sicrhau adfywio economaidd a chyfiawnder i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi eu hesgeuluso gan benderfyniadau Llywodraethau olynol yn San Steffan. Diolch.