Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 5 Mawrth 2019.
Dechreuais gymryd rhan yn y ddadl am yr UE ar y cychwyn cyntaf oherwydd, i mi, nid y materion mwyaf sylweddol oedd y materion economaidd erioed, y materion masnach ac ati, ond y cyfraniad y mae'r UE wedi ei wneud i heddwch Ewropeaidd a pha mor anodd fyddai amgyffred, pan ddatgymalodd yr Undeb Sofietaidd ac y dechreuodd cyn-wledydd cytundeb Warsaw ddatblygu systemau democrataidd, pa mor anodd fyddai amgyffred y gallai hynny fod wedi digwydd heb ryfela a thrychineb mawr iawn oni bai am y ffaith fod yna gorff y gallen nhw glosio ato sydd wedi sefydlu egwyddorion amrywiol rheol y gyfraith a llywodraethu.
Wrth gwrs, nid oedd dim yn berffaith. Rwyf wedi bod yn feirniad o'r UE yn y gorffennol oherwydd iddo yn gynyddol roi budd corfforaethol ar draul yr agwedd gymdeithasol, ond, fel y dywedodd Vaclav Havel unwaith—un o arweinwyr y symudiadau anghydffurfiol o ddwyrain Ewrop—os ydych chi eisiau newid sefydliad mewn gwirionedd, mae'n rhaid ichi fod yn rhan ohono ac mae'n rhaid ichi weithio gyda phobl eraill i wneud hynny. Yr hyn sydd wedi bod yn wirioneddol anesmwyth yw'r datblygiad, nid yn unig yn y DU yn sgil y refferendwm, ond mewn rhannau eraill o Ewrop, o dwf cenedlaetholdeb asgell dde, a chenedlaetholdeb mewnblyg ac eithaf ymosodol ac annymunol y gwelwn ni'n cael ei ran-ariannu a'i gefnogi gan bobl fel Putin drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy gyllid, ac rydym ni'n gweld y cysylltiadau rhwng y sefydliadau hynny megis y Wawr Euraid, trwy Le Pen, a thrwy sefydliadau asgell dde eithafol a ffasgaidd. Ac felly, nid yw'n syndod o gwbl ein bod yn gweld UKIP yn awr, gyda phobl fel Tommy Robinson, i bob pwrpas yn dod yn awr yn blaid ideolegol broto-ffasgaidd, oherwydd dyna yw UKIP bellach, ac nid oes unrhyw amheuaeth am hynny a'r cynghreiriau sydd ganddyn nhw yn rhan o'r agenda fewnblyg asgell dde honno. Dyna sy'n fy nychryn. Dyna sy'n beryglus iawn.
Yr hyn sy'n glir yn awr—. [Torri ar draws.] Wnaf i ddim derbyn unrhyw neges gan Neil Hamilton—rhywun sydd wedi bod yn gwneud esgusion dros apartheid De Affrica, yn gwneud esgusion dros y gyfundrefn ffasgaidd â Pinochet. Mae wedi'i gofnodi, ac nid oes unrhyw syndod eich bod wedi dod o hyd i gartref cysurus yn yr hyn sydd bellach yn blaid broto-ffasgaidd yn y Deyrnas Unedig.
Yr heriau mawr sy'n effeithio arnom ni yn awr yn ystod yr wythnos nesaf fydd y mater o adael heb gytundeb, ac yn arbennig estyniad i Erthygl 50, gan fod un peth yn glir, a hynny yw na all Llywodraeth y DU hyd yn oed gwblhau'r agenda ddeddfwriaethol angenrheidiol o fewn yr amserlen sydd ar ôl. A byddai unrhyw lywodraeth gyfansoddiadol gyfrifol yn awyddus i geisio'r estyniad hwnnw i alluogi hynny i ddigwydd mewn gwirionedd. Ond, i ni, mae problem fwy byth, sef y sefyllfa o adael heb gytundeb oherwydd y difrod economaidd y bydd hynny yn ei achosi i Gymru ac i lawer o'r DU os nad oes trefniadau o ran masnach. Beth ydym ni'n ei ddweud wrth yr 20,000 o weithwyr ceir sydd eisiau allforio 95 y cant o'u cydrannau i'r Undeb Ewropeaidd pan fo rhwystrau a phan fo anawsterau, a phan yn sydyn, bydd bygythiad i'w swyddi oherwydd anallu'r Llywodraeth i negodi cytundeb masnach priodol? Beth ydym ni'n ei ddweud wrth ddinasyddion yr UE nad yw cytundeb Theresa May yn eu diogelu—rhai sydd wedi rhoi eu bywydau, wedi talu eu trethi, ac wedi gweithio yn y wlad hon? A beth ydym ni'n ei ddweud o ran yr holl addewidion hynny a wnaed am amddiffyn hawliau gweithwyr, sy'n hollbwysig i unrhyw gytundeb arbennig? Gwnaed yr addewidion hynny. Pleidleisiodd llawer o'r bobl hynny, llawer o'r gweithwyr hynny—[torri ar draws.] Ymyriad? Ie.