Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Mawrth 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, mae gennym anghysondeb rhyfedd, onid oes, o ran bod gennym Senedd sy'n deddfu ond nid oes gennym ni farnwriaeth ar wahân i weithredu hynny. Credaf, yn wir, mai ni yw'r unig Senedd neu Senedd ranbarthol yn y byd gorllewinol lle mae hynny'n digwydd, ac mae'n amlwg na fydd y Cwnsler Cyffredinol yn synnu o'm clywed i'n dweud ein bod ni, ar y meinciau hyn, yn credu mai'r datrysiad hirdymor i hynny yw datganoli'r system gyfiawnder yn llawn.
Ond o ran y sefyllfa ar hyn o bryd, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod penderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud eisoes oherwydd nad yw barnwyr wedi deall y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Bydd ef yn ymwybodol o un neu ddau achos y llynedd, er enghraifft, yn ymwneud â darparu gwasanaethau gofal. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ein sicrhau ni heddiw y bydd ef yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn gwneud yn siŵr, yn benodol, fod aelodau newydd y farnwriaeth yn cael hyfforddiant priodol yn rhan o'u hyfforddiant craidd fel eu bod yn deall eu bod nhw erbyn hyn yn ymwneud â dau fath gwahanol, ar wahân, o gyfreithiau, mewn llawer maes—ym mhob un o'r meysydd datganoledig—er mwyn sicrhau nad ydym yn mynd drwy'r broses gostus, ac yn achos yr achosion gofal hynny, y broses boenus iawn o benderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud o ganlyniad i anwybodaeth ar ran y barnwyr?