2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru ar 5 Mawrth 2019.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y farnwriaeth yn llwyr ymwybodol o'r gwahaniaethau cynyddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr? OAQ53490
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu yn rheolaidd â Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus i'w hysbysu am faterion polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar y farnwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw gynigion sy'n effeithio ar weinyddiaeth y llysoedd, y gyfraith droseddol, neu weithrediad y system farnwrol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, mae gennym anghysondeb rhyfedd, onid oes, o ran bod gennym Senedd sy'n deddfu ond nid oes gennym ni farnwriaeth ar wahân i weithredu hynny. Credaf, yn wir, mai ni yw'r unig Senedd neu Senedd ranbarthol yn y byd gorllewinol lle mae hynny'n digwydd, ac mae'n amlwg na fydd y Cwnsler Cyffredinol yn synnu o'm clywed i'n dweud ein bod ni, ar y meinciau hyn, yn credu mai'r datrysiad hirdymor i hynny yw datganoli'r system gyfiawnder yn llawn.
Ond o ran y sefyllfa ar hyn o bryd, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod penderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud eisoes oherwydd nad yw barnwyr wedi deall y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Bydd ef yn ymwybodol o un neu ddau achos y llynedd, er enghraifft, yn ymwneud â darparu gwasanaethau gofal. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ein sicrhau ni heddiw y bydd ef yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn gwneud yn siŵr, yn benodol, fod aelodau newydd y farnwriaeth yn cael hyfforddiant priodol yn rhan o'u hyfforddiant craidd fel eu bod yn deall eu bod nhw erbyn hyn yn ymwneud â dau fath gwahanol, ar wahân, o gyfreithiau, mewn llawer maes—ym mhob un o'r meysydd datganoledig—er mwyn sicrhau nad ydym yn mynd drwy'r broses gostus, ac yn achos yr achosion gofal hynny, y broses boenus iawn o benderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud o ganlyniad i anwybodaeth ar ran y barnwyr?
Wel, mae'r Aelod yn nodi cwestiwn difrifol iawn ac mae'n her sy'n codi drwy fod â phwerau deddfu sylfaenol ond heb awdurdodaeth ar wahân a heb system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru. Mae'r Llywodraeth wedi cytuno ar brotocol gyda Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus, sy'n ymwneud â rhoi hysbysiad cynnar o gynnwys deddfwriaeth a'r dyddiad disgwyliedig i honno ddod i rym, ac effeithiau hynny ar y ddeddfwriaeth bresennol. Cynhelir cyfarfodydd misol rhwng Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus a swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llif yr wybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol. Mae'r cyfrifoldeb statudol dros hyfforddiant y farnwriaeth wedi cael ei ddatganoli gan Arglwydd Brif Ustus y Coleg Barnwrol, a'n gobaith a'n nod ni, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr y bydd y Coleg Barnwrol yn cael digon o rybudd ymlaen llaw o gynnwys y newidiadau cyfreithiol a wnawn ni yma yng Nghymru i sicrhau bod yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei gyflwyno.
Ceir trafodaeth barhaus ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol yn ariannol am hyfforddiant y farnwriaeth ym meysydd y gyfraith lle y gwelir gwahaniaethu. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw mai cyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yw hyn gan nad yw cyfiawnder wedi cael ei ddatganoli. Er hynny, yn ymarferol, yn amlwg mewn rhai meysydd, er enghraifft cyfraith tai, lle cafwyd newid sylweddol, bu trafodaethau eang iawn rhwng swyddogion a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sut y gellir trosi hynny i fod yn newidiadau ymarferol i'r weithdrefn greiddiol, ac yn y blaen. Felly, mae hynny'n digwydd o bryd i'w gilydd pan geir materion penodol o newid sylweddol.