Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 5 Mawrth 2019.
Fel y byddwch chi'n gwybod, o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gan ddarparwyr gwasanaethau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer unigolyn anabl yn y ffordd y maen nhw'n darparu eu gwasanaethau. Serch hynny, rwy'n ymwybodol o enghraifft o awdurdod lleol yn gwrthod gosod mynedfa i bobl anabl mewn parc cyhoeddus. Nawr, mae hyn yn ymddangos yn gwbl afresymol ac mae'n amlwg fod hynny'n atal defnyddwyr cadeiriau olwyn yn yr ardal rhag cael y mwynhad o ddefnyddio'r parc. A ydych chi'n cytuno y dylai awdurdodau lleol ddarparu mynediad i bobl anabl i barciau cyhoeddus er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon?