Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Mawrth 2019.
Cwnsler Cyffredinol, byddwch chi wedi clywed hyn yn cael ei ddweud o'r blaen fod mynediad i gyfiawnder yn debyg i fod yn berchen ar Rolls Royce—gall pawb gael un. Ac rwyf i o'r farn bod ein system gynllunio ni yn eithaf tebyg i hynny ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael ymchwiliadau yn ddiweddar lle mae cwmnïau datblygu mawr, yn cael eu cynrychioli gan Gwnsleriaid y Frenhines a llu o arbenigwyr costus, yn sefyll yn erbyn Cymdeithas y Cerddwyr a dinasyddion lleol. Ac mae'n ymddangos i mi—. Pam maen nhw'n talu'r symiau enfawr hynny o arian? Wel, y peth cyntaf yw eu bod yn gallu fforddio i wneud hynny. Mae rhai o'n cwmnïau datblygu tai yn lladrata oddi ar y boblogaeth, gan fanteisio i'r eithaf ar brinder tai. Mae'r ffaith bod un cwmni, fel yr adroddir yn ddiweddar, yn gwneud elw o £66,000 ar bob tŷ— does dim rhyfedd eu bod nhw'n gallu talu £32 miliwn y flwyddyn i'w prif weithredwr. Felly, mae'n ymddangos i mi fod gennym ni system a gaiff ei phrynu gan y rhai sy'n gallu disgwyl gwneud elw enfawr allan ohoni, ac nid yw'r broblem yn ymwneud â thegwch trefniadol y broses, ond gallu pobl i gael cynrychiolaeth gyfiawn a chael dweud eu dweud yn deg o fewn y broses honno. Ac rwyf i o'r farn y bydd y rhai ohonom ni o'r pleidiau i gyd sy'n cymryd rhan yn y broses hon yn gweld yr anghyfiawnder dybryd. Mae'r system gynllunio wedi cael ei phrynu gan y cwmnïau corfforaethol sy'n hynod ariannog, a'r hyn y byddwn i'n ei ofyn yw nid yn gymaint am degwch y broses, ond am fecanwaith y gynrychiolaeth efallai. Pam na ddylai un o'r cwmnïau datblygu tai mawr hyn, sy'n gallu disgwyl ennill degau o filiynau o bunnoedd o'u datblygiadau, dalu i gronfa hefyd i alluogi cynrychiolaeth leol i gymunedau lleol a grwpiau lleol, oherwydd, hyd nes y gwneir rhywbeth, mae gennym annhegwch dybryd yn y gyfundrefn?