Ymchwiliadau Cynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn o egwyddor a chwestiwn o ran hygyrchedd cyfiawnder, y gwn iddo ddilyn ei drywydd yn y cyd-destun hwn ac mewn rhai eraill. Y cwestiwn yw hyn: heb reolaeth dros yr awenau sy'n caniatáu'r mynediad gorau i gyfiawnder yn y cyd-destun hwnnw, beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod y pwyntiau lle y gellir arfer y fantais honno yn cael eu lleihau cymaint â phosib o fewn y cyfyngiadau a wynebwn ni? Ac mae'r system hon a arweinir gan gynlluniau yn dibynnu ar y cynlluniau datblygu presennol a fabwysiadwyd, sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad, ac ymgynghoriad cymunedol cyn eu mabwysiadu, ac mae'n amlwg bod yr ymgysylltiad cymunedol yn natblygiad y cynllun datblygu lleol i'w groesawu, a'i annog, i sicrhau ei fod yn cynnwys polisïau sy'n adlewyrchu dyheadau'r gymuned.

Ond rwy'n cydnabod y pwynt a wna ef fod yr anghydbwysedd hwnnw o ran cynrychiolaeth yn her i degwch y system honno.