Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Mawrth 2019.
Cyflwr ein hamgylchedd yw mater mwyaf enbyd ein cyfnod ni. Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig wedi canfod bod newid hinsawdd, llygredd a newidiadau o ran rheoli dŵr a thir wedi uno i sicrhau ein bod yn prysur agosáu at chwalfa na ellir ei ddadwneud o ran bioamrywiaeth. A bydd hyn yn golygu chwalfa na ellir ei ddadwneud o ran cynhyrchu bwyd hefyd. Mae'r sefydliad llawr gwlad byd-eang Slow Food yn dweud bod
Amser yn prinhau, mae'n rhaid inni newid pethau o fewn y 10 mlynedd nesaf neu beryglu chwalfa na ellir ei ddadwneud.
Mae'n amserol, felly, fod cynrychiolydd o blaid y Democratiaid Alexandria Ocasio-Cortez a chyd-aelodau wedi dadorchuddio bargen werdd newydd a fyddai'n cyflwyno diwygiadau enfawr i leihau allyriadau carbon gan yr Unol Daleithiau wrth ychwanegu miliynau o swyddi a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith. Mae Cortez a'i chydweithwyr wedi nodi'n gywir bod amser y chwarae bach wedi dod i ben, ac mae angen newid sylfaenol arnom ni os ydym am achub y blaned er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. A wnaiff y Llywodraeth hon gydnabod yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu a chyflwyno cynllun radical i fynd i'r afael â'r mater hwn? Mae angen inni ailfeddwl o ran ein heconomi. A yw'r Llywodraeth yn barod i weithredu ar hynny?
Hoffwn godi mater y cymorth a gaiff cyn-filwyr pan fyddan nhw'n dychwelyd i fywyd sifil. Mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei godi o'r blaen ac mae rhywfaint o waith ymgyrchu rhagorol wedi ei wneud gan fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn San Steffan yn hyn o beth. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar i rannu ei brofiadau o geisio gwasanaethau iechyd meddwl wedi iddo adael y fyddin. Tra'r oedd yn y lluoedd arfog, bwriodd y dyn hwn ddau dymor dyletswydd yn Irac a thri thymor dyletswydd yn Affganistan. Dioddefodd iselder ac anhwylder straen wedi trawma a phryder eithafol wedyn, yn ogystal â phroblemau alcohol a chyffuriau. Rwy'n falch o ddweud ei fod wedi dod allan yr ochr arall, ond dywed nad oedd hynny o ganlyniad i'r gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu hymestyn yn ormodol. Yn ei eiriau grymus ei hun, dywedodd,
"Rwy'n teimlo bod y fyddin a'r Llywodraeth yn gadael i gyn-filwyr fynd yn llwyr ar ddifancoll, yn enwedig yn ein hardal ni, pan ddaw'r gwasanaeth yn y llu arfog i ben. Rwyf i'n brawf o hynny. Mae'r ôl-ofal yn wael iawn a'r unig therapi a gefais i oedd ateb holiaduron a fyddai'n gofyn, ''Ar raddfa o un i 10, sut ydych chi'n teimlo heddiw?''.
Pryd fyddwn ni'n debygol o weld newid gwirioneddol ar lawr gwlad ar gyfer cyn-filwyr Cymru, ac a ydych chi'n hyderus y bydd y strategaeth 10 mlynedd ar gyfer ein cyn-filwyr, a ddadorchuddiwyd y llynedd, yn darparu ar gyfer pobl fel y dyn o'r Rhondda a gysylltodd â mi?
Rwy'n awyddus i'r Llywodraeth ailystyried y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano cyn hyn a byddaf yn dal ati i alw amdano hyd nes y cawn gydraddoldeb â Gogledd Iwerddon, sydd â throthwy ddwywaith maint un Cymru, sef £7,000. Mae llawer o'm hetholwyr i yn y Rhondda yn gweithio, ac eto maen nhw'n parhau i fyw mewn tlodi. Maen nhw'n cwympo ychydig y tu allan i'r trothwy am brydau ysgol am ddim, a nhw yw'r math o bobl a nodwyd gan y Comisiynydd Plant, Sally Holland, yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Dywedodd hi nad yw anghenion sylfaenol plant mewn teuluoedd fel hyn yn cael eu diwallu, gyda theuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio gwisg ysgol, offer a nwyddau glanweithiol. Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu, ddangos uchelgais ac arweinyddiaeth gwirioneddol er mwyn helpu miloedd o deuluoedd ledled Cymru sy'n cael trafferthion gwirioneddol.
A ydych chi'n credu bod yr uchelgais a'r arweinyddiaeth angenrheidiol yn yr arfaeth, ac a gawn ni ddadl ynglŷn â chanfyddiadau'r Comisiynydd Plant yn amser y Llywodraeth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda?