– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Mawrth 2019.
Yr eitem nesaf felly nawr yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad.
Diolch, Llywydd. Ceir nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn hwyrach y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cynnig atal Rheolau Sefydlog i alluogi'r Cynulliad i gynnal dadl ar y negodiadau i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd. Er mwyn caniatáu hynny, mae'r datganiadau ar brentisiaethau, buddsoddi mewn sgiliau i'r dyfodol, a rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol wedi eu gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei gael ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, y cyntaf ar gyllid i ysgolion Cymru? Roeddwn i'n gwrando ar y drafodaeth yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch y sefyllfa yng Nghonwy. Ond wrth gwrs mae hon yn broblem ledled Cymru, sydd wedi bod yn achos pryder i nifer o undebau, i'r fath raddau eu bod nhw wedi cyhoeddi datganiad ddoe yn mynegi bod ysgolion yng Nghymru mewn cyflwr argyfyngus. Rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl yn awyddus i'w ddeall yw pam, o dan y fframwaith cyllidol cyfredol, mae Cymru'n cael £1.20 i bob plentyn am bob £1 sy'n cael ei gwario ar blentyn mewn ysgol yn Lloegr, tra ein bod ni, mewn gwirionedd, yn gwario llai yn flynyddol na'r hyn sy'n cael ei wario ar hyn o bryd ar ein disgyblion. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall hynny, a chredaf fod angen inni gael tryloywder eglur gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran ein sefyllfa gyllidol. Mae'n gwbl amlwg bod ein disgyblion yma wedi cael eu gadael ar ôl—cawsom rai o'r canlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd y llynedd. Mae llai o'n plant ni'n mynd i'r prifysgolion gorau ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gennym y diwygio uchelgeisiol hwn yn digwydd yn ein system addysg ar adeg pan mae'r cyllid mewn cyflwr eithaf enbyd. Felly, rwy'n credu bod angen inni ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ymdrin â'r argyfwng—a dyna'r gair a ddefnyddiwyd i'w ddisgrifio gan yr undebau addysg—fel y gallwn ni gael trefn ar y sefyllfa a gwneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn cael y buddsoddiad sy'n angenrheidiol.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad ar wasanaethau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ar gyfer oedolion yma yng Nghymru? Byddwch yn ymwybodol, o ganlyniad i'r pwysau a roddodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, gyda'i Fil awtistiaeth, fod y Gweinidog Iechyd wedi gweithredu i ddatblygu gwasanaeth awtistiaeth integredig—neu yn sicr dyna yw uchelgais y Llywodraeth. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod wedi cymryd cam yn y cyfeiriad hwnnw. Un o'r rhesymau pam mae angen gwasanaeth integredig yw bod materion o ymddygiad, problemau emosiynol, megis pryder a dicter, materion wrth ddatblygu sgiliau cymdeithasol a bywyd bob dydd, sy'n broblemau nid yn unig i blant ag awtistiaeth, ond i oedolion hefyd. Nawr, mae'r un sefyllfa yn wir ar gyfer oedolion sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio ag sydd ar gyfer plant ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, ac eto nid oes unrhyw wasanaeth integredig Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd yn cael ei gynnig yng Nghymru. Rwyf i o'r farn bod hwn yn fwlch y mae angen i ni roi sylw iddo, a byddwn yn ddiolchgar iawn wir pe gallem ni gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr hyn y mae ef yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn, a byddaf yn fwy na pharod i roi eglurder ar yr hyn sy'n digwydd gyda'n sefyllfa ni o ran cyllid, oherwydd, wrth gwrs, mae agenda cyni parhaus Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad o bron £1 biliwn yng nghyllideb gyffredinol Cymru. Ond, er gwaethaf hyn, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi datgan yn glir bod ariannu ysgolion fesul disgybl wedi gostwng yn gyflymach yn Lloegr nag yng Nghymru, ac rydym ni'n cydnabod er mwyn parhau i godi ein safonau fod angen cymorth ychwanegol ar ein hathrawon a'n hysgolion. A dyna pam y cyhoeddwyd yn ddiweddar y buddsoddiad unigol mwyaf ar gyfer athrawon ers datganoli—pecyn gwerth £24 miliwn o ddysgu proffesiynol i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Rydym hefyd wedi cyfeirio'r £23.5 miliwn cyfan at awdurdodau lleol i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon a hefyd wedi rhoi £15 miliwn ychwanegol ar ben hynny. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi'r eglurder y mae'r Aelod yn ei geisio.
O ran y cwestiwn am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, mae'n rhaid i mi ddweud bod y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn dyddio o gyfnod llawer cyn cyflwyniad Bil arfaethedig eich cyd-Aelod, Paul Davies, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gwasanaethau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd.
Trefnydd, rydych yn ymwybodol o bryderon lleol yn Abertawe ynglŷn â'r cyfarfod ymgynghori a gynlluniwyd gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, a oedd i ddigwydd yr wythnos nesaf ar 12 Mawrth. Roedd y cyfarfod i fod trafod y posibilrwydd o leoli cyfleuster gwaredu daearegol niwclear. Cafwyd cymaint oedd y protestio yn Abertawe fel bod y cyfarfod wedi cael ei ganslo erbyn hyn—mae'n ymddangos ar-lein. Ond yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn aneglur ar leoliad posibl i gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru. Nawr, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot a reolir gan Lafur a chyngor Abertawe a reolir gan Lafur yn erbyn lleoli cyfleuster o'r fath i ddympio sylweddau ymbelydrol yn eu hardaloedd nhw, ond mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi datgan:
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd posibl neu gymunedau i fod yn gartref i gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru, a gellir lleoli cyfleuster gwaredu daearegol—sef dymp niwclear— yng Nghymru dim ond pe bai cymuned yn barod i groesawu hynny a chael arian am y pleser hwnnw. Fodd bynnag, mae Gweinidog arall yn y Llywodraeth, Vaughan Gething, yn noddi cyfarfod gyda'r awdurdod datgomisiynu niwclear yr wythnos nesaf, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nawr, wythnos neu ddwy yn ôl mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn, roedd pobl yn Abertawe yn gofyn yn briodol, 'Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn hyn o beth?' Roedd hi'n siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt mwy cadarn ac wedi mynegi'r gwrthwynebiad cryf a roddwyd gan awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg gan Lafur i leoli cyfleusterau o'r fath yng Nghymru. Nawr, yng ngolau'r pryderon a godwyd yn y de-orllewin, a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i gyflwyno datganiad ar gyfleusterau gwaredu daearegol yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n hapus iawn i fod yn glir iawn ynglŷn â'r mater hwn: nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gyflwyno unrhyw gynigion am safleoedd gwaredu yng Nghymru.
A gaf i ddychwelyd at y colli swyddi yn Virgin Media yn Abertawe? Ym mis Ionawr, fe ddywedoch chi:
Gadawodd y garfan gyntaf o'r staff hynny ym mis Tachwedd, ac mae dau gam eto yn yr arfaeth ar gyfer eleni. Mae tîm cymorth Virgin Media y tu allan i'r gweithle yn gyfrifol am ddarparu cyfle i staff gwrdd ar y safle â phartneriaid allweddol ein tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Cynhaliwyd ffair swyddi ym mis Hydref ar safle Virgin Media, ac mae ffeiriau swyddi eto wedi eu trefnu i gyd-fynd â'r carfannau i gyd-fynd â'r carfannau ychwanegol hynny, fel y dywedais, a fydd yn gadael y cwmni.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu dyddiad y ffair swyddi nesaf, faint o bobl sydd wedi dod o hyd i gyflogaeth arall, faint o bobl sy'n chwilio am gyflogaeth sydd wedi gadael heb gyflogaeth arall?
A gaf i ddychwelyd hefyd at fater arall yr wyf i wedi ei godi cyn hyn? Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwyr y sector cyhoeddus, a sut y bydd hwnnw'n cael ei ariannu. Mae pryder ymhlith nifer o sefydliadau sector cyhoeddus, yn enwedig yr ysgolion, ynglŷn ag effaith costau cynyddol cyfraniadau'r cyflogwr at bensiynau athrawon. Defnyddiwyd llawer o eiriau hynaws ac addawyd y bydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo'r arian iddyn nhw, ond mae'r flwyddyn ariannol newydd yn dechrau ym mis Ebrill ac mae'n rhaid gosod y cyllidebau. Byddai unrhyw argoel fod yr arian yn dod yn arbed llawer o bryder, ac o bosibl golli swyddi.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r ddau bwynt. O ran Virgin Media, gallaf gadarnhau y cynhaliwyd ffair swyddi ddiwedd mis Chwefror i gyd-fynd â'r garfan ym mis Mawrth sy'n gadael y cwmni. Bydd y cwmni sy'n weddill—bydd y gweithwyr sy'n weddill, fe ddylwn ddweud, yn gadael y cwmni fis Mehefin eleni, ac mae ein partner ni, fforwm canolfan gyswllt Cymru wedi bod yn arwain y ffeiriau swyddi hynny. Rydym ar hyn o bryd yn casglu'r wybodaeth am lwyddiant, neu fel arall, y staff sydd wedi eu diswyddo i sicrhau cyflogaeth arall, a bydd hyn yn llywio'r ffordd ymlaen i raddau helaeth. Ond pan fydd gennyf i ddyddiad ar gyfer ffair swyddi eto, byddaf yn fwy na pharod i'w rannu gyda chi.
O ran pensiynau sector cyhoeddus, mae wedi bod yn rhwystredig iawn wrth geisio cael yr wybodaeth sy'n angenrheidiol inni ei chael gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Roeddem yn disgwyl ymateb ym mis Tachwedd, rwy'n cofio, ond ddim ond yn ddiweddar iawn y mae Trysorlys y DU wedi rhoi manylion am y fformiwla Barnett i Gymru o ganlyniad i'r arian ychwanegol ar gyfer pensiynau'r sector cyhoeddus yn Lloegr. Nid yw'n talu'r gost honno'n llawn, 100 y cant. Rydym wedi ceisio rhagor o fanylion gan y Trysorlys ynglŷn â'i gyfrifiadau, gan weithio drwy'r hyn y mae'n ei olygu nawr i gyrff y sector cyhoeddus yma yng Nghymru, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad ar hynny'n fuan iawn.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych chi, os gwelwch yn dda, un yn adeiladu ar yr ateb yr ydych wedi ei roi i Mike Hedges ynglŷn â'r sefyllfa gyda phensiynau gweithwyr y sector cyhoeddus ac, yn benodol, y lobi a gynhaliwyd y prynhawn yma gan yr undebau dysgu? Roedden nhw'n glir iawn eu bod nhw'n credu bod ymrwymiad wedi dod ym mis Ionawr gennych chi yn Llywodraeth Cymru am yr arian i ateb rhwymedigaethau'r pensiynau. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai fod gennych gryn dipyn o waith cydbwyso i'w wneud o ran y niferoedd neu rai esboniadau, ond byddai haeriad oddi wrthych chi fel Ysgrifennydd Cyllid yn dangos y bydd yr arian hwnnw, beth bynnag y bo, yn cael ei drosglwyddo yn achos llawer o dawelwch meddwl i benaethiaid ysgol yn benodol, oherwydd ar hyn o bryd nid oes ganddyn nhw unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr arian hwnnw ganddyn nhw o 1 Ebrill ymlaen. Rwy'n gwerthfawrogi bod gennych chi waith i'w wneud o ran cydbwyso, ond byddai sicrhau y bydd pa arian bynnag problemau yr oedden nhw'n eu hwynebu ac, yn sicr, roedden nhw'n ymhelaethu ar y rhain yn y lobi yr aeth pob un ohonom ni iddi'r prynhawn yma.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog chwaraeon o ran y trafodaethau sydd ar y gweill ynghylch diwygio rygbi rhanbarthol yma yng Nghymru? Rwy'n sylweddoli nad cyfrifoldeb uniongyrchol y Llywodraeth yw hynny, ond mae'n anodd gennyf ddychmygu bod Llywodraeth Cymru a) heb ei barn, b) heb gael rhywrai'n cysylltu â hi am ryw fath o gymorth a chefnogaeth, yn enwedig gan fod yna, os caiff y cynigion eu dwyn ymlaen, bosibilrwydd y caiff rhanbarth ei sefydlu yn y Gogledd. Byddai dim sylw ar y mater hynod amserol hwn yn codi braw arnaf i oherwydd byddwn yn gobeithio bod gan Lywodraeth Cymru safbwynt ar yr hyn sy'n digwydd. A byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau bod datganiad yn dod oherwydd, yn amlwg, fel y dywedais, mae hynny'n amserol iawn ar hyn o bryd.
Ac os caf i roi diweddariad o ran rygbi i'r Cynulliad, gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, enillodd tîm rygbi'r Cynulliad fuddugoliaeth fawr yn erbyn Tai'r Cyffredin a'r Arglwyddi bythefnos yn ôl—46-14 oedd y sgôr— sef, a bod yn deg, yn ôl y cyfrif—y fuddugoliaeth fwyaf a gawsom ni ers rhai blynyddoedd; ond nodau elusennol y clwb hefyd, yn codi arian ar gyfer canser y coluddyn ac elusennau lleol eraill; a hoffwn roi ar gofnod fy niolch i bawb a gymerodd ran—y dorf a'r chwaraewyr—a dymuno'n dda i'r tîm ar eu gwibdaith i'r Alban y penwythnos hwn. Oherwydd, am y tro cyntaf, byddwn yn chwarae yn erbyn Senedd Holyrood, ac mae'n ymddangos ei bod yn nodwedd sy'n cynyddu yng ngweithgarwch y clybiau, bod y gwahanol seneddau a chynulliadau ledled y DU ac, yn wir, yn Ffrainc, yn ceisio cael gemau yn erbyn y Cynulliad. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n gobeithio y byddai'r holl Aelodau yn cytuno ei fod yn gam cadarnhaol.
Diolch yn fawr iawn am hynny, ac am ymhelaethu ar y mater a godwyd gan Mike Hedges ynglŷn â phensiynau. Gallaf gadarnhau na chawsom ni'r wybodaeth ynglŷn â phensiynau ond ychydig iawn o amser cyn y cyfarfod cyllid pedair ochrog a gynhaliwyd ganol mis Chwefror, ond rwy'n bwriadu gwneud datganiad—datganiad ysgrifenedig, gobeithio—yfory gyda'r math o eglurder y mae'r Aelod yn chwilio amdano.
O ran rygbi rhanbarthol, rwy'n siŵr y bydd yna safbwyntiau ar y cynigion. Rwy'n gwybod bod safbwyntiau cryf yn sicr ar y naill du a'r llall yn fy etholaeth i yng Ngŵyr ar y cynigion hynny. O ran yr hyn sy'n briodol o safbwynt Llywodraeth Cymru, credaf fod yn rhaid i unrhyw gynlluniau ailstrwythuro fod yn gynaliadwy a chefnogi datblygiad rygbi i'r dyfodol, a pharhau i ddenu cefnogaeth y cyhoedd ledled Cymru.
Rwy'n sicr yn falch iddi fod yn gêm lwyddiannus—buddugoliaeth fawr, fel y dywedasoch—ac rwy'n dymuno'n dda i'r tîm wrth iddynt fynd i'r Alban.
Cyflwr ein hamgylchedd yw mater mwyaf enbyd ein cyfnod ni. Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig wedi canfod bod newid hinsawdd, llygredd a newidiadau o ran rheoli dŵr a thir wedi uno i sicrhau ein bod yn prysur agosáu at chwalfa na ellir ei ddadwneud o ran bioamrywiaeth. A bydd hyn yn golygu chwalfa na ellir ei ddadwneud o ran cynhyrchu bwyd hefyd. Mae'r sefydliad llawr gwlad byd-eang Slow Food yn dweud bod
Amser yn prinhau, mae'n rhaid inni newid pethau o fewn y 10 mlynedd nesaf neu beryglu chwalfa na ellir ei ddadwneud.
Mae'n amserol, felly, fod cynrychiolydd o blaid y Democratiaid Alexandria Ocasio-Cortez a chyd-aelodau wedi dadorchuddio bargen werdd newydd a fyddai'n cyflwyno diwygiadau enfawr i leihau allyriadau carbon gan yr Unol Daleithiau wrth ychwanegu miliynau o swyddi a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith. Mae Cortez a'i chydweithwyr wedi nodi'n gywir bod amser y chwarae bach wedi dod i ben, ac mae angen newid sylfaenol arnom ni os ydym am achub y blaned er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. A wnaiff y Llywodraeth hon gydnabod yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu a chyflwyno cynllun radical i fynd i'r afael â'r mater hwn? Mae angen inni ailfeddwl o ran ein heconomi. A yw'r Llywodraeth yn barod i weithredu ar hynny?
Hoffwn godi mater y cymorth a gaiff cyn-filwyr pan fyddan nhw'n dychwelyd i fywyd sifil. Mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei godi o'r blaen ac mae rhywfaint o waith ymgyrchu rhagorol wedi ei wneud gan fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn San Steffan yn hyn o beth. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar i rannu ei brofiadau o geisio gwasanaethau iechyd meddwl wedi iddo adael y fyddin. Tra'r oedd yn y lluoedd arfog, bwriodd y dyn hwn ddau dymor dyletswydd yn Irac a thri thymor dyletswydd yn Affganistan. Dioddefodd iselder ac anhwylder straen wedi trawma a phryder eithafol wedyn, yn ogystal â phroblemau alcohol a chyffuriau. Rwy'n falch o ddweud ei fod wedi dod allan yr ochr arall, ond dywed nad oedd hynny o ganlyniad i'r gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu hymestyn yn ormodol. Yn ei eiriau grymus ei hun, dywedodd,
"Rwy'n teimlo bod y fyddin a'r Llywodraeth yn gadael i gyn-filwyr fynd yn llwyr ar ddifancoll, yn enwedig yn ein hardal ni, pan ddaw'r gwasanaeth yn y llu arfog i ben. Rwyf i'n brawf o hynny. Mae'r ôl-ofal yn wael iawn a'r unig therapi a gefais i oedd ateb holiaduron a fyddai'n gofyn, ''Ar raddfa o un i 10, sut ydych chi'n teimlo heddiw?''.
Pryd fyddwn ni'n debygol o weld newid gwirioneddol ar lawr gwlad ar gyfer cyn-filwyr Cymru, ac a ydych chi'n hyderus y bydd y strategaeth 10 mlynedd ar gyfer ein cyn-filwyr, a ddadorchuddiwyd y llynedd, yn darparu ar gyfer pobl fel y dyn o'r Rhondda a gysylltodd â mi?
Rwy'n awyddus i'r Llywodraeth ailystyried y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano cyn hyn a byddaf yn dal ati i alw amdano hyd nes y cawn gydraddoldeb â Gogledd Iwerddon, sydd â throthwy ddwywaith maint un Cymru, sef £7,000. Mae llawer o'm hetholwyr i yn y Rhondda yn gweithio, ac eto maen nhw'n parhau i fyw mewn tlodi. Maen nhw'n cwympo ychydig y tu allan i'r trothwy am brydau ysgol am ddim, a nhw yw'r math o bobl a nodwyd gan y Comisiynydd Plant, Sally Holland, yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Dywedodd hi nad yw anghenion sylfaenol plant mewn teuluoedd fel hyn yn cael eu diwallu, gyda theuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio gwisg ysgol, offer a nwyddau glanweithiol. Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu, ddangos uchelgais ac arweinyddiaeth gwirioneddol er mwyn helpu miloedd o deuluoedd ledled Cymru sy'n cael trafferthion gwirioneddol.
A ydych chi'n credu bod yr uchelgais a'r arweinyddiaeth angenrheidiol yn yr arfaeth, ac a gawn ni ddadl ynglŷn â chanfyddiadau'r Comisiynydd Plant yn amser y Llywodraeth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda?
Diolch i chi am godi'r materion hyn. Yn sicr, mae'r cyntaf y gwnaethoch chi sôn amdano yn ymwneud a'r heriau enbyd o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd yr ydym ni i gyd yn ymwybodol iawn ohonyn nhw. Yn sicr, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein cymell ni nid yn unig i feddwl yn wahanol ond i raddau helaeth iawn i weithredu'n wahanol o ran y penderfyniadau a wnawn yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd y rhai a wna'r cyrff cyhoeddus y tu hwnt i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad maes o law ar yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', sydd yn sicr yn edrych ar swyddogaeth bwysig ffermio o ran diogelu ein hadnoddau naturiol yma yng Nghymru, a ffermio mewn ffordd gyfrifol, oherwydd, wrth gwrs, roedd y cwestiwn yn ymwneud â chynhyrchu bwyd pan wnaethoch chi ei ofyn.
O ran cyn-filwyr, rwy'n falch iawn o glywed bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dechrau rhoi cardiau adnabod i gyn-filwyr a bydd hynny'n sicr yn rhoi cydnabyddiaeth i'r amser y gwnaethon nhw ei dreulio yn y lluoedd arfog a'u galluogi i gael gafael ar rai o'r gwasanaethau sydd gennym ni'n bwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Dylai fod gan gyn-filwyr flaenoriaeth o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd os yw eu cyflwr yn sgil y gwasanaeth y maen nhw wedi ei roi i'n gwlad, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i wasanaethau iechyd meddwl yn ogystal ag anghenion iechyd corfforol. Felly, os oes yna faterion penodol yn achos y gŵr bonheddig a ddisgrifiwyd gennych y dymunwch eu codi gyda'r Gweinidog, yna rwy'n siŵr y bydden nhw'n awyddus i ymateb.
O ran mater prydau ysgol am ddim, gwn ein bod ni wedi ymgynghori'n eang ar gynigion ac wedi rhoi cyllid ychwanegol sylweddol i'n galluogi i gymryd y camau a gymerwn ynglŷn â dyfodol prydau ysgol am ddim a'r ffordd yr ydym yn ymdrin ag anghenion y plant yn y teuluoedd hynny. Bydd y penderfyniadau a wnaethom yn cynyddu nifer y plant sy'n gallu cael budd ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, rydym yn pryderu am y teuluoedd a'r plant hynny sydd ar y trothwy o ran cael gwasanaethau a chymorth. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am ein dull ni o weithredu yn hyn o beth.
Trefnydd, cefais gyfle'n ddiweddar i drafod posibiliadau'r dreth trafodion ariannol—y 'dreth Robin Hood', fel y'i gelwir—gyda chynrychiolwyr UNSAIN Cymru. Clywsom hefyd gan yr ymgyrch dreth Robin Hood am bosibiliadau treth o'r fath i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus. Gan nad oes unrhyw argoel y bydd cyni'n dod i ben yn fuan iawn, rwy'n siŵr y byddai cefnogaeth mewn sawl cwr o'r Siambr hon i gyfle i drafod y mater hwn, gan y byddai'n codi arian sylweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yng ngoleuni cefnogaeth y Prif Weinidog i'r dreth hon ar hyn o bryd, a gaf i ofyn i chi a fydd y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno datganiad ar y goblygiadau posib?
Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn, a llongyfarchiadau ar gynnal digwyddiad llwyddiannus yma yn y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth a cheisio cefnogaeth i'r dreth Robin Hood. Gallaf yn sicr gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y dreth yr ydych yn ei disgrifio. Rydym yn cydnabod nad yw hyn o fewn ein cymhwysedd datganoledig, a byddem yn sicr yn annog Llywodraeth y DU i ymchwilio iddi ymhellach. Rydym yn cydnabod y byddai treth o'r math hwn yn fwyaf effeithiol o gael ei chyflwyno ledled y byd, ond yn sicr, pe na fyddai hynny'n bosib, byddai gwneud hynny o fewn awdurdodaethau treth yr holl economïau arweiniol, fel lleiafswm, yn ffordd ardderchog ymlaen.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar y problemau parhaus a achosir gan Gyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â Gwent SenCom? Efallai y bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod i ar 11 Rhagfyr y llynedd wedi galw am ddatganiad ar benderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i dynnu ei gyllid oddi ar y gwasanaeth hwn, sy'n cynorthwyo plant â phroblemau golwg, clyw a chyfathrebu. Yn ei hateb, dywedodd y Gweinidog bryd hynny ei bod yn siŵr y byddai'r Gweinidog Addysg yn adrodd yn ôl i'r Senedd pan fyddai ei thrafodaethau wedi dod i ben. Gohiriodd y Cyngor wedyn ei gynllun i dynnu'r arian yn ôl tan 2020. Er hynny, mae'r ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol y gwasanaeth yn rhoi cryn bwysau ar staff, ac mae cynlluniau wedi eu gwneud eisoes i gael gwared ar 16 o swyddi. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad nawr gan y Gweinidog Addysg ar y camau y bydd hi'n eu cymryd er mwyn ymyrryd i ddileu'r ansicrwydd hwn a diogelu'r gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer plant yng Nghasnewydd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn glir iawn ei bod hi'n croesawu'r penderfyniad i wthio unrhyw benderfyniad terfynol yn ôl o ran ffordd ymlaen i allu cael trafodaethau pellach. Rwy'n credu bod cael y gofod hwn nawr i ddod o hyd i ffordd briodol ymlaen yn gam cadarnhaol yn sicr.
Rŷm ni yng nghanol y tymor ŵyna, wrth gwrs, ac ar adeg fel hon mae rhywun yn dod efallai'n fwy ymwybodol o'r broblem cŵn yn ymosod ar ddefaid ac ŵyn. Yn wir, mae ymchwil gan NFU Mutual wedi dangos bod ymosodiadau fel hyn wedi costio £1.2 miliwn i'r sector da byw yn y Deyrnas Unedig y llynedd. Beth sy'n peri gofid arbennig i fi yw bod yr achosion yma yn lleihau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond ar gynnydd yma yng Nghymru. Yn wir, mi gostiodd hi bron i £300,000 i'r sector yn sgil colledion y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru yn benodol, a dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn cynnwys yr effaith ar les anifeiliaid a oedd yn cael eu hymosod arnyn nhw, a hefyd y gofid a oedd yn cael ei achosi i'r ffermwyr hynny a oedd yn cael eu heffeithio gan yr ymosodiadau yma. Mae hi wedi dod yn gwbl amlwg erbyn hyn fod yr amser wedi dod i addasu, i adolygu ac i ddiwygio Deddf cŵn 1953, oherwydd mae'r Ddeddf wedi dyddio.
Dyw'r heddlu ddim yn gallu cymryd ci a'i gadw yn dilyn ymosodiad os ydyn nhw'n gwybod pwy yw perchennog y ci hwnnw. Does gan yr heddlu ddim pŵer chwaith i gymryd sampl DNA gan gi sydd yn cael ei amau o fod wedi ymosod. Dyw’r llysoedd chwaith ddim yn gallu gwahardd perchennog unrhyw gi sydd wedi ymosod ar ddafad rhag perchnogi ci arall, hyd yn oed os yw'r perchennog hwnnw wedi'i gael yn euog o gyflawni trosedd gyfreithiol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn glir yn eu galwad ynglŷn â'r angen i ddiwygio'r Ddeddf. Mae'r undebau amaeth yn cefnogi hynny. Dwi innau hefyd nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio y Ddeddf yma. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth a gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â beth yw bwriad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Ddeddf yma? Mae bron i 70 mlynedd ers i'r Ddeddf gael ei phasio, ac mae'n amlwg erbyn hyn i bawb nad yw hi bellach yn addas i bwrpas a bod yr amser wedi dod i weithredu.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Yn sicr, mae ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn destun pryder i Lywodraeth Cymru. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Heddlu Gogledd Cymru yn benodol, ond hefyd yr heddluoedd ledled Cymru a chydag undebau ffermwyr, er mwyn archwilio sut y gallwn annog perchnogion cŵn i ymddwyn yn gyfrifol mewn nifer o gyd-destunau, ond gyda phwyslais penodol ar atal ymosodiadau ar dda byw. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch ei safbwyntiau o ran diwygio Deddf Cŵn 1953 yn y ffordd yr ydych wedi ei disgrifio.
Trefnydd, cefais fy nychryn pan glywais ychydig ddyddiau yn ôl bod menywod sy'n cael camesgoriad ar ôl bod yn feichiog am lai nag 20 wythnos yn cael eu derbyn mewn ward yn Ysbyty Singleton lle nad oes unrhyw gyfleusterau ystafell ymolchi en-suite. Yn waeth byth, mae hon yn ward gymysg lle disgwylir i fenywod sy'n cam-esgor gerdded heibio dynion i fynd i'r toiledau a'r cawodydd, ac mae honiadau—er nad wyf yn siŵr am hyn—bod y cyfleusterau hynny hefyd yn cael eu rhannu â dynion. Mae hwn yn honiad difrifol a wnaed gan fwy nag un etholwr, a chredaf ei fod yn haeddu cael ei godi yn y Siambr hon yn hytrach na thrwy lythyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n gofyn i'r Gweinidog iechyd a wnaiff ymchwilio i hyn ar frys ac adrodd yn ôl mewn datganiad sy'n cadarnhau polisi'r Llywodraeth ar hyn.
Diolch. Byddaf yn sicr yn trafod â'r Gweinidog iechyd sut y gall ef ystyried y mater penodol hwn yr ydych yn ei ddisgrifio â'r bwrdd iechyd, a bydd ef yn adrodd yn ôl i chi.
Roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â chynrychiolwyr o ymgyrch pensiwn y glowyr heddiw. Gwn y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod fy mod i wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cymryd hanner gweddill eu pensiwn o’r gronfa, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hyn ers 1994. Mae biliynau o bunnoedd a ddylai fod wedi mynd i'r glowyr wedi cael eu pocedu gan y Trysorlys, ac mae hynny'n frawychus iawn. Mae rhai o'r glowyr yr effeithir arnyn nhw gan hyn wedi bod yn cael cyn lleied â £84 yr wythnos.
Mae’r ymgyrchwyr bellach wedi llwyddo i gael y 100,000 o lofnodion sydd eu hangen fel y bydd dadl yn San Steffan a byddan nhw’n mynd â’r ddeiseb i 10 Downing Street yfory. Hoffwn gofnodi na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib heb waith diflino fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, a fu'n ymgyrchu ochr yn ochr â’r glowyr am flynyddoedd lawer ar y mater hwn a gwn eu bod nhw’n hynod o ddiolchgar iddo ef am hynny.
Ar 15 Ionawr, gofynnodd Adam Price i'r Prif Weinidog ymrwymo i gefnogi ymdrechion y cyn-lowyr a chwrdd â dirprwyaeth ohonyn nhw er mwyn cynnig cymorth llawn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n gwneud hynny. Rwyf felly yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn mewn datganiad, os gwelwch yn dda, a sut maen nhw’n bwriadu cefnogi’r ymgyrch nawr bod diwedd y gân yn nesáu.
Diolch yn fawr iawn am godi hyn ac am dalu teyrnged i waith Steffan yn y maes penodol hwn. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gefnogwr hirdymor o’n glowyr yma yng Nghymru, a gwn fod y Prif Weinidog wedi cwrdd ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr i edrych ar y cynnydd a wnaed o ran yr ymgyrch benodol hon ac er mwyn trafod sut orau i gefnogi’r 22,000 o bobl yng Nghymru sydd ymysg bron 140,000 o bobl yr effeithir arnyn nhw gan hyn.
Gwn fod y Prif Weinidog hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac at ymddiriedolwyr y cynllun yn gofyn iddyn nhw adolygu'r cynllun ac ystyried adolygu'r dull o rannu’r gweddillion yr ydych yn eu disgrifio—gweddillion o dros £2.5 biliwn, rwyf ar ddeall—er mwyn cytuno ar ffordd newydd a thecach o ddosbarthu’r gweddillion hynny, ac felly, o wella budd-daliadau’r pensiynwyr ac adlewyrchu gwir lefel y risg a geir yn y cynllun pensiwn penodol hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i'r materion a godwyd yn yr adroddiad ac yn ymrwymo i weithio gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr i sicrhau canlyniad cadarnhaol i ddibynyddion y cynllun. Bydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater penodol hwn heddiw. A dweud y gwir, rwy'n credu ei fod newydd gyrraedd mewnflychau pawb.
Hoffwn i ddychwelyd at fater adroddiad y comisiynydd plant ynghylch amddiffyn plant Cymru rhag effeithiau tlodi. Gwyddom fod hyn yn effeithio ar oddeutu traean ein plant, felly mae hon yn her fawr iawn i bob un ohonom ni. Rwyf yn credu, ar yr un llaw, mewn ysgolion cynradd ein bod ni’n gwybod bod llawer o blant y mae angen y brecwast ysgol am ddim hwnnw arnyn nhw nad ydyn nhw’n ei gael, oherwydd bod y lleoedd yn llenwi'n gyflym gan y rhai sy'n defnyddio brecwast yr ysgol fel gofal plant am ddim, ac mae hynny—sicrhau bod y bobl iawn yn cael blaenoriaeth—yn her fawr i benaethiaid. Ond yn ein hysgolion uwchradd, mae’r darlun a gyflëwyd gan y comisiynydd plant yn achosi pryder mawr, oherwydd bod gennym brydau ysgol system gaffeteria lle bo’r cwmnïau arlwyo yn ymdrechu i fanteisio i'r eithaf ar incwm gan blant. Yn ogystal ag effeithio ar y rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim, mae hyn hefyd yn effeithio ar y rhai sy'n cael trafferthion ariannol oherwydd cyflogau isel. Gan fy mod i wedi gweld hyn fy hun, gwn nad yw rhai ysgolion yn darparu dŵr tap yn yr ystafell fwyta, ac maen nhw’n hyrwyddo'r diodydd hyn mewn poteli plastig. Ni allaf ddeall sut mae gan hyn unrhyw le yn y canllawiau ‘Blas am Oes’.
Hoffwn i alw am ddau ymateb gan y Llywodraeth ar unwaith, cyn inni drafod yr adroddiad hwn. Un yw y byddwn i’n hoffi gofyn a oes modd i’r Gweinidog llywodraeth leol ysgrifennu at bob awdurdod lleol i ofyn iddyn nhw fonitro beth yn union sy'n digwydd ym mhob un o'u hysgolion uwchradd. Mae llai nag 20 o ysgolion yng Nghaerdydd, sef yr awdurdod lleol mwyaf, felly mae hyn yn hollol ddichonadwy. Maen nhw naill ai’n anwybodus neu maen nhw’n deall yr hyn sy’n digwydd a bod y cwmnïau hyn yn hyrwyddo cynhyrchion er mwyn cynyddu incwm yn hytrach na maethu plant.
Yn ail, hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog addysg sy’n egluro pwy yn union sy'n monitro safon prydau ysgol sydd, yn fy marn i, yn methu â bodloni gofynion maethol plant. Rydym yn gweld plant sy’n cael prydau ysgol am ddim ac yn defnyddio hynny er mwyn prynu sglodion gyda saws cyri ar ddydd Gwener, ac nid yw hynny’n bryd maethlon.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn sy'n ymwneud ag adroddiad y comisiynydd plant. Prin y gallaf gredu bod rhaid imi ddweud y dylai ysgolion fod yn darparu cyfleoedd i blant yfed dŵr yfed ffres am ddim yn ystod unrhyw adeg o’r diwrnod ysgol, pe bydden nhw’n dymuno. Dylai'r ysgolion fod yn codi arwyddion sy’n cyfeirio at orsafoedd dŵr drwy'r ysgolion, yn rhoi cwpanaid neu wydraid o ddŵr i'r plant, neu’n caniatáu iddyn nhw gario poteli dŵr, ac yn sicrhau bod goruchwylwyr yr ystafell fwyta yn annog plant i yfed dŵr sydd ar gael yn ystod amseroedd ysgol ac yn hyrwyddo'r hawl i ddŵr drwy’r ysgol—ac yn sicr yn gwneud y disgyblion yn ymwybodol hefyd nad yw'r tapiau yn ardaloedd y toiledau yn ffynonellau priodol o ddŵr yfed. Mae'r rhain oll yn bethau y byddech chi’n credu y byddai’r ysgolion yn y bôn yn eu deall.
Yn sicr, o ran y safonau, mae gennym Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, sy'n berthnasol i'r holl fwyd a diod sydd ar gael i ddisgyblion yn ystod amser brecwast, amser egwyl, amser cinio, egwyl y prynhawn neu mewn clybiau ar ôl yr ysgol. Ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi ynghylch monitro’r rheoliadau hynny a sut y gallwn fod yn fodlon bod y rheoliadau hynny’n darparu diod a bwyd iach i blant drwy gydol y diwrnod ysgol.FootnoteLink Mae'r Gweinidog llywodraeth leol wedi nodi y byddai hi’n hapus hefyd i ysgrifennu at awdurdodau lleol ynglŷn ag ansawdd y bwyd sy’n cael ei roi i blant mewn ysgolion a sut mae’r awdurdodau lleol eu hunain yn bodloni eu hunain o ran y gofyniad hwnnw ynghylch diod a bwyd iach.
Trefnydd, ddoe, roeddwn i, Jenny Rathbone ac, yn wir, Mohammad Asghar, echdoe, yn rhan o daith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i Wrecsam yn y gogledd—cyfarfod defnyddiol iawn. Ac fe'i gwnaed yn bosib gan daith trên ddymunol iawn yno ac yn ôl, drwy garedigrwydd Trafnidiaeth Cymru. Aeth y daith honno yn dda iawn, ond, fel yr wyf yn siŵr bod llawer o Aelodau'r Cynulliad yn gwybod, nid oedd y profiad hwnnw yn un cyffredinol. Rwyf wedi cael nifer o e-byst pryderus gan etholwyr sydd wedi cael problemau â’r gwasanaeth trên hwnnw. Roedd un yn benodol gan etholwr y mae ei ferch yn teithio i Goleg Chweched Dosbarth Henffordd yn rheolaidd i astudio. Mae ganddi arholiadau cyn bo hir ac mae hi'n bryderus bod llawer o’r gwasanaethau naill ai'n cael eu canslo'n fyr rybudd neu’n cael eu gohirio am adegau amrywiol, ac nid yw’n gallu cynllunio ei hastudiaethau'n effeithiol. Nawr, cofiaf y Gweinidog dros drafnidiaeth yn dweud wrthym ni, ychydig wythnosau yn ôl, rwy'n credu, bod y problemau hyn yn rhannol oherwydd gwaith cynnal a chadw gwael y fasnachfraint flaenorol ac y dylem gadw hynny mewn cof, ac rwy'n credu bod dadl yno. Fodd bynnag, nid yw hynny'n berthnasol iawn i’m hetholwyr i nac i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau trên hyn ar hyn o bryd. Felly, pa sicrwydd y gallwn ni ei roi i’m hetholwyr ac i deithwyr eraill ar Drafnidiaeth Cymru, beth bynnag yw’r rheswm dros yr oedi presennol a’r problemau â'r gwasanaeth, bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nhw ac y bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau cyn gynted â phosib?
Diolch yn fawr iawn. Fel y nodwyd gennych, cynhaliwyd dadl ar y gwasanaethau rheilffordd yn ddiweddar yma yn Siambr y Cynulliad, dan arweiniad y Gweinidog, Ken Skates. Yn sicr, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i wella'r sefyllfa ac i ddarparu'r math o fuddsoddiadau yr ydym bellach wedi cytuno arnyn nhw. Rwyf yn siŵr y byddai Ken Skates yn hapus i gyflwyno datganiad arall maes o law fel y bydd yr Aelodau yn cael cyfle i fyfyrio ar brofiadau eu hetholwyr o'r fasnachfraint newydd a hefyd i holi'r Gweinidog am y ddarpariaeth.
Mae fy etholwraig, Hannah Evans, wedi cael diagnosis o gyflwr genetig etifeddol prin, sef syndrom math 3 o Ehlers-Danlos—rwyf yn gobeithio fy mod i wedi dweud hynny'n gywir—ac mae hi wedi datblygu cymhlethdodau eilaidd o ganlyniad i glefyd ysgogi mastgelloedd ac anhwylder mastocytosis systemig. Mae’n rhaid i Hannah deithio i Lundain i weld arbenigwr preifat gan nad oes arbenigwr yng Nghymru i ddiwallu ei hanghenion meddygol cymhleth, ac mae hynny wedi rhoi llawer o bwysau ar y teulu gan iddynt orfod talu am y driniaeth breifat hon a chawsant eu gwrthod gan y gwasanaethau arbenigol yma yng Nghymru. Felly, maen nhw wedi gofyn imi godi hyn gyda Llywodraeth Cymru, gan alw am ddatganiad ynghylch sut y gellid edrych ar ariannu’r mathau hyn o gyflyrau yn y dyfodol, o ystyried y ffaith bod cost triniaeth breifat mor uchel ac felly gallai hynny atal pobl rhag chwilio am y driniaeth honno.
Mae’r ail gwestiwn yr oeddwn yn bwriadu ei gofyn yn dilyn yr un gan Andrew R.T. Davies mewn cysylltiad â rygbi. Y cwestiwn cyntaf yw hyn: pam maen nhw’n gwneud hyn yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad, am un peth, gan fod hyn yn tynnu sylw pawb pan ddylai'r genedl uno? A’r cwestiwn arall yw hwn: clywais eich ateb yn gynharach, ond nid wyf yn credu ei bod mor hawdd â chael Llywodraeth Cymru yn gwylio o'r cyrion. Ar ddiwedd y dydd, bydd Undeb Rygbi Cymru yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ranbarth newydd yn y gogledd. Mae uno posibl yn un peth ac, fel y dywedasoch, mae gwahanol farnau, ond bydd hyn yn effeithio ar fywoliaeth pobl, bydd yn effeithio ar amodau gwaith y chwaraewyr rygbi a lle maen nhw wedi ymgartrefu ar hyn o bryd, gan eu dadwreiddio nhw o’u cymunedau. A wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gydag Undeb Rygbi Cymru a sut y byddwch yn ymgysylltu â nhw i ddod o hyd i ateb a fydd yn gynaliadwy ac yn ddichonadwy ar gyfer y dyfodol? Oherwydd rydym wedi gweld hyn yn digwydd o’r blaen ym Mhontypridd ac nid ydym eisiau gweld yr un camgymeriadau’n cael eu gwneud eto. Felly, rhowch sicrwydd inni, os gwelwch yn dda. Byddem yn gwerthfawrogi datganiad.
Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn cofio bod y Gweinidog iechyd wedi gwneud datganiad ynghylch cronfa'r driniaeth newydd dim ond ychydig o wythnosau yn ôl yma yn y Cynulliad, ond yn sicr pe byddech yn dymuno ysgrifennu ato gyda manylion eich achos penodol, gwn y byddai ganddo ddiddordeb mewn edrych yn fanylach ar y materion a godwyd gennych.
Y cwestiwn ynghylch rygbi, o ran pam, rwy'n credu mai cwestiwn i Undeb Rygbi Cymru yw hwnnw, mae'n debyg, ond gwn y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog ddylwn i ei ddweud—yn cynnal trafodaethau rheolaidd gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch pob math o agweddau sy'n ymwneud â'r gêm yng Nghymru. A chyn gynted ag y bydd rhyw fath o ddiweddariad gan y Gweinidog o ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn nyfodol y chwarae yng Nghymru, gwn y bydd ef yn ei gyflwyno, ond yn sicr, am heddiw, rwy'n credu i raddau helaeth mai sicrhau bod dyfodol y chwarae yn gynaliadwy ledled Cymru yw'r ateb, a byddem yn awyddus i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Andrew R.T. Davies, ac wrth Bethan Sayed, petai awydd cyflwyno dadl Aelod unigol ar ddyfodol rygbi yng Nghymru, yna oni ddylid cynnwys rygbi ar lawr gwlad hefyd? Gan fod y strwythur rhanbarthol yn bwysig nid yn unig i dîm Cymru, ond i rygbi ar lawr gwlad hefyd.
Ond a gaf i ofyn am ddwy ddadl os gwelwch yn dda? Ac rwy'n rhoi digon o amser i'r Trefnydd ystyried hyn hefyd. Yn San Steffan, roeddem ni'n arfer cael dadl flynyddol am y pysgodfeydd. Nawr, nid wyf yn awgrymu y dylai hynny ddigwydd yma, ond mae gennym ni stori o falchder am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn yr amgylchfyd morol, ond mae'n rhaid inni herio'n hunain ynghylch beth yn fwy y gallem ei wneud hefyd. Nawr, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y syniad, yn seiliedig ar yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud eisoes yng Nghymru, a beth mwy y mae'n rhaid inni ei wneud, y syniad o ddadl forol, neu ddadl forol a physgodfeydd flynyddol—cynaliadwyedd morol—gan nad oes byth digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer ei drafod yma yn y Siambr. Mae mwy i ni ei wneud, a chredaf y byddai'n canolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni eisoes a dangos beth mwy y gallem ei wneud. Nawr, fel mae'n digwydd, mae'r cyfnod 28 Gorffennaf hyd 12 Awst yn Wythnos Forol Genedlaethol y DU. Mae'r cyfnod hwn ar ôl inni dorri ond gallai'r wythnos sy'n arwain at doriad yr haf fod yn amser delfrydol, efallai, ar gyfer dadl flynyddol o'r fath.
A gaf i hefyd dynnu sylw at y posibilrwydd, os gwelwch yn dda, o gael dadl, a gofyn am hynny, nawr bod gennym ni Weinidog Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros gydweithredu ac egwyddorion cydweithredol yn y Llywodraeth—mentrau cymdeithasol, yr economi gymdeithasol ac ati—ar gydweithredu? Nawr, a gaf i awgrymu, unwaith eto i roi amser—? Mae hi'n Bythefnos Cwmnïau Cydweithredol rhwng 24 Mehefin a 8 Gorffennaf. Byddai'n amser delfrydol i'r Llywodraeth gyflwyno dadl ar sut y gall hi ymgorffori egwyddorion cydweithredol, ac rwy'n datgan buddiant gan fy mod yn ymwneud â busnes cydweithredol yn ogystal â bod yn Aelod Llafur yng Nghymru, a chadeirydd y grŵp cydweithredol o Aelodau'r Cynulliad.
Yn olaf, a gawn ni ddatganiad ar y mater o docynnau trwodd, o'r themâu blaenllaw i'r glo mâm? Mae tocynnau trwodd yn fater pwysig i'm hetholwyr i. Byddai'n caniatáu inni, petai datganiad, ofyn i'r Gweinidog am ymagwedd Trafnidiaeth Cymru at docynnau trwodd, pan fyddwch, er enghraifft, yn prynu tocyn sengl o Ben-y-bont ar Ogwr i Lundain ymlaen llaw, mae'n costio £25; petaech chi'n prynu'r tocyn o Faesteg, sydd, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod yn bersonol, dim ond ychydig i fyny'r llinell gangen, byddai'n costio £50.60—124 y cant yn fwy costus—ond petaech chi'n prynu tocyn sengl o Faesteg i Ben-y-bont er mwyn dal y trên i Lundain, byddai'n costio £2.60. Beth sy'n digwydd? A dyma un enghraifft yn unig ymysg llawer sydd gennyf i. Felly, pe gallem ni gael datganiad ar docynnau trwodd a'r ymagwedd, gan fod, yn amlwg, annhegwch yma ac mae'n annog pobl i beidio â defnyddio ein llinellau cangen i ymuno â'r trenau sy'n mynd trwodd i Lundain neu i Fryste neu unrhyw le arall oherwydd y pris uchel.
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r materion hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog yn mynd i ymgynghoriad ynghylch 'Brexit a'n moroedd' yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn archwilio dyfodol ein pysgodfeydd yng Nghymru, a gwn y bydd cyfle maes o law i drafod yr amgylchfyd morol yn ehangach gyda'r Gweinidog. Rwy'n credu fy mod yn cofio ein bod yn tueddu i gael datganiad blynyddol ar faterion morol a'r pysgodfeydd yn y Cynulliad, a chredaf ein bod wedi gwneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
O ran cydweithredu a mentrau cydweithredol, wrth gwrs, bydd y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich cais am ddatganiad.
Ac, o ran tocynnau trwodd a Thrafnidiaeth Cymru, mae'r teithiau penodol yr ydych chi wedi eu disgrifio yn dangos yn glir iawn bod problem yn bodoli, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch yn y lle cyntaf i ddisgrifio cynlluniau Trafnidiaeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Diolch i'r Trefnydd.