3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:41, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, rydych yn ymwybodol o bryderon lleol yn Abertawe ynglŷn â'r cyfarfod ymgynghori a gynlluniwyd gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, a oedd i ddigwydd yr wythnos nesaf ar 12 Mawrth. Roedd y cyfarfod i fod trafod y posibilrwydd o leoli cyfleuster gwaredu daearegol niwclear. Cafwyd cymaint oedd y protestio yn Abertawe fel bod y cyfarfod wedi cael ei ganslo erbyn hyn—mae'n ymddangos ar-lein. Ond yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn aneglur ar leoliad posibl i gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru. Nawr, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot a reolir gan Lafur a chyngor Abertawe a reolir gan Lafur yn erbyn lleoli cyfleuster o'r fath i ddympio sylweddau ymbelydrol yn eu hardaloedd nhw, ond mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi datgan:

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd posibl neu gymunedau i fod yn gartref i gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru, a gellir lleoli cyfleuster gwaredu daearegol—sef dymp niwclear— yng Nghymru dim ond pe bai cymuned yn barod i groesawu hynny a chael arian am y pleser hwnnw. Fodd bynnag, mae Gweinidog arall yn y Llywodraeth, Vaughan Gething, yn noddi cyfarfod gyda'r awdurdod datgomisiynu niwclear yr wythnos nesaf, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nawr, wythnos neu ddwy yn ôl mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn, roedd pobl yn Abertawe yn gofyn yn briodol, 'Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn hyn o beth?' Roedd hi'n siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt mwy cadarn ac wedi mynegi'r gwrthwynebiad cryf a roddwyd gan awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg gan Lafur i leoli cyfleusterau o'r fath yng Nghymru. Nawr, yng ngolau'r pryderon a godwyd yn y de-orllewin, a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i gyflwyno datganiad ar gyfleusterau gwaredu daearegol yng Nghymru?