Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Mawrth 2019.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, y cyntaf ar gyllid i ysgolion Cymru? Roeddwn i'n gwrando ar y drafodaeth yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch y sefyllfa yng Nghonwy. Ond wrth gwrs mae hon yn broblem ledled Cymru, sydd wedi bod yn achos pryder i nifer o undebau, i'r fath raddau eu bod nhw wedi cyhoeddi datganiad ddoe yn mynegi bod ysgolion yng Nghymru mewn cyflwr argyfyngus. Rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl yn awyddus i'w ddeall yw pam, o dan y fframwaith cyllidol cyfredol, mae Cymru'n cael £1.20 i bob plentyn am bob £1 sy'n cael ei gwario ar blentyn mewn ysgol yn Lloegr, tra ein bod ni, mewn gwirionedd, yn gwario llai yn flynyddol na'r hyn sy'n cael ei wario ar hyn o bryd ar ein disgyblion. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall hynny, a chredaf fod angen inni gael tryloywder eglur gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran ein sefyllfa gyllidol. Mae'n gwbl amlwg bod ein disgyblion yma wedi cael eu gadael ar ôl—cawsom rai o'r canlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd y llynedd. Mae llai o'n plant ni'n mynd i'r prifysgolion gorau ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gennym y diwygio uchelgeisiol hwn yn digwydd yn ein system addysg ar adeg pan mae'r cyllid mewn cyflwr eithaf enbyd. Felly, rwy'n credu bod angen inni ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ymdrin â'r argyfwng—a dyna'r gair a ddefnyddiwyd i'w ddisgrifio gan yr undebau addysg—fel y gallwn ni gael trefn ar y sefyllfa a gwneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn cael y buddsoddiad sy'n angenrheidiol.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad ar wasanaethau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ar gyfer oedolion yma yng Nghymru? Byddwch yn ymwybodol, o ganlyniad i'r pwysau a roddodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, gyda'i Fil awtistiaeth, fod y Gweinidog Iechyd wedi gweithredu i ddatblygu gwasanaeth awtistiaeth integredig—neu yn sicr dyna yw uchelgais y Llywodraeth. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod wedi cymryd cam yn y cyfeiriad hwnnw. Un o'r rhesymau pam mae angen gwasanaeth integredig yw bod materion o ymddygiad, problemau emosiynol, megis pryder a dicter, materion wrth ddatblygu sgiliau cymdeithasol a bywyd bob dydd, sy'n broblemau nid yn unig i blant ag awtistiaeth, ond i oedolion hefyd. Nawr, mae'r un sefyllfa yn wir ar gyfer oedolion sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio ag sydd ar gyfer plant ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, ac eto nid oes unrhyw wasanaeth integredig Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd yn cael ei gynnig yng Nghymru. Rwyf i o'r farn bod hwn yn fwlch y mae angen i ni roi sylw iddo, a byddwn yn ddiolchgar iawn wir pe gallem ni gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr hyn y mae ef yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.