Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn am godi hyn ac am dalu teyrnged i waith Steffan yn y maes penodol hwn. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gefnogwr hirdymor o’n glowyr yma yng Nghymru, a gwn fod y Prif Weinidog wedi cwrdd ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr i edrych ar y cynnydd a wnaed o ran yr ymgyrch benodol hon ac er mwyn trafod sut orau i gefnogi’r 22,000 o bobl yng Nghymru sydd ymysg bron 140,000 o bobl yr effeithir arnyn nhw gan hyn.
Gwn fod y Prif Weinidog hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac at ymddiriedolwyr y cynllun yn gofyn iddyn nhw adolygu'r cynllun ac ystyried adolygu'r dull o rannu’r gweddillion yr ydych yn eu disgrifio—gweddillion o dros £2.5 biliwn, rwyf ar ddeall—er mwyn cytuno ar ffordd newydd a thecach o ddosbarthu’r gweddillion hynny, ac felly, o wella budd-daliadau’r pensiynwyr ac adlewyrchu gwir lefel y risg a geir yn y cynllun pensiwn penodol hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i'r materion a godwyd yn yr adroddiad ac yn ymrwymo i weithio gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr i sicrhau canlyniad cadarnhaol i ddibynyddion y cynllun. Bydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater penodol hwn heddiw. A dweud y gwir, rwy'n credu ei fod newydd gyrraedd mewnflychau pawb.