Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw. Mae'n ddiwrnod mawr, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy'n cael ei ddathlu, nid yn unig yma ond gan y Cenhedloedd Unedig ers 1996. Mae menywod wedi gwneud ac yn parhau i wneud cyfraniadau sylweddol ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Hyd yn oed gyda mwy o gydraddoldeb a hawliau deddfwriaethol a menywod trawiadol sydd wedi creu argraff ac yn esiampl i eraill, mae menywod yn dal i wynebu heriau heddiw yma yng Nghymru, Gweinidog. Mae llawer o'r rhain yn y gweithle. Mae'n ffaith drist bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn enillion, yr awr, heb gynnwys goramser, ar gyfer gweithwyr amser llawn a rhan-amser yng Nghymru bron 15 y cant yn 2017. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa gynllun sydd ganddi ar gyfer cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru? Rwy'n pryderu bod cyngor gyrfa, yn rhy aml o lawer, yn tueddu i arwain merched at brentisiaethau sy'n talu llai na'r rhai ar gyfer dynion. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei hybu yn y gweithle?
Mae angen dewrder aruthrol i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau a cham-drin domestig. Rhaid inni wneud mwy i annog dioddefwyr o'r fath i adrodd am gam-drin ac i adnabod arwyddion trais yn y cartref. Rai blynyddoedd yn ôl, rhoddodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd ymateb cadarnhaol i'm hawgrym y dylai bod gan bob sefydliad sector cyhoeddus bolisi trais yn erbyn menywod yn y gweithle. Byddai hyn yn nodi ac yn helpu gweithwyr sydd wedi dioddef trais. Tybed a all y Dirprwy Weinidog ein cynghori a fu unrhyw gynnydd yn hyn o beth.
Mae cam-fanteisio ar fenywod yng Nghymru ac o amgylch Cymru yn cael llawer mwy o gydnabyddiaeth. Mae'r datblygiadau yn y ffordd y mae masnachu mewn pobl yn cael ei ddirnad wedi arwain at ddod â'i natur gudd a'i wahanol weddau i'r wyneb. Ar wahân i gam-fanteisio’n rhywiol ar fenywod, ceir problemau llafur gorfodol, caethwasiaeth mewn gwasanaethau, caethiwed, a hyd yn oed tynnu organau. Mae anffurfio organau cenhedlu menywod yn achos erchyll o dorri hawliau dynol sydd yn gallu peryglu bywyd. Galwaf hefyd ar y Gweinidog i roi sicrwydd inni y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yn erbyn yr anghyfiawnder hwn.
Ym 1897, dywedodd Susan Anthony, ymgyrchydd Americanaidd, a dyma ddyfyniad gwych:
Ni fydd byth gydraddoldeb llwyr nes y bydd menywod eu hunain yn helpu i lunio cyfreithiau ac ethol gwneuthurwyr cyfraith.
Ers hynny, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cydraddoldeb a rhyddfreinio menywod. Dirprwy Weinidog, fel bywyd ei hun, credaf mai merched sy'n esgor ar heddwch—heddwch yn y byd. Maen nhw'n tueddu i fod y cyntaf i ffurfio llinellau bywyd ac i geisio unioni pethau mewn ardaloedd o wrthdaro a rhaniadau o amgylch y byd. Wrth i'r byd ddynesu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019, ar 8 Mawrth, mae'n bwysig bod pob un ohonom ni'n cydnabod cyfraniad menywod ymhob agwedd ar fywyd—menywod fel Theresa May, Angela Merkel, ein Llywydd, Margaret Thatcher, Sheikh Hasina, Benazir Bhutto, Indira Gandhi, Julia Gillard, Golda Meir a Helen Clark. Dyna ond ychydig y gallaf eu cyfrif sydd i gyd wedi torri drwy'r rhwystrau anweledig ac arwain eu gwledydd yn y byd. Nid yw unrhyw fenyw sydd wedi arwain gwlad erioed wedi mynd i ryfel yn erbyn ei chymdogion neu unrhyw wlad arall. Y rheini oedd y cyfnodau mwyaf heddychlon. Roedd pob un yn creu newid, maen nhw i gyd wedi gwthio ffiniau, ac maen nhw i gyd wedi bod yn sbardun i symud ymlaen o fewn eu gwaith a'u bywyd teuluol. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol inni gydnabod menywod enwog sy'n adnabyddus inni, yn ogystal â'r menywod hynny sy'n ymdrechu i ddarparu cartref diddos i'w teuluoedd, y menywod hynny sy'n cyfuno nifer o swyddi er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd, y menywod hynny sy'n gorfod bod yn fam ac yn dad, a'r menywod hynny sy'n treulio eu bywydau yn gofalu am eraill. Dywedaf bob amser bod y byd yn ffotograff du a gwyn, neu'n llun—gyda menywod mae'n troi'n lliwgar. Ar gyfer heddiw, ar gyfer Diwrnod y Menywod, hoffwn ddweud o'r ochr hon i'r Siambr, diolch yn fawr iawn ichi, fenywod, ar draws y byd.