Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Mawrth 2019.
Gallaf, yn sicr. Byddwch wedi clywed datganiad y Prif Weinidog pan oedd yn gyfrifol am y portffolio cyllid yn ôl ym mis Medi, a amlinellai'r ffaith ein bod yn mabwysiadu ymagwedd newydd tuag at gaffael yng Nghymru, ac y byddwn yn gweithredu uned lai gyda mwy o ffocws o lawer, gan leihau nifer y contractau mawr o oddeutu 60 i oddeutu 30, er mwyn sicrhau bod gennym ymagwedd â mwy o ffocws, ac ymagwedd sy'n rhoi mwy o ystyriaeth i fuddiannau lleol a rhanbarthol, sef yr hyn y dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym eu bod ei eisiau o'r drefn gaffael pan ofynasom iddynt tuag at ddiwedd y llynedd.