Mercher, 6 Mawrth 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.
Roeddwn yn meddwl am eiliad fod Lynne Neagle yn mynd i fod yn ateb y cwestiynau.
2. Pa arian y mae'r Gweinidog wedi'i ddyrannu i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas ag adfywio'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ53526
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol? OAQ53523
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am gyllideb frys rhag ofn y bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd? OAQ53515
6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gofal cymdeithasol? OAQ53488
8. Pa adnoddau y mae'r Gweinidog wedi'u dyrannu i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu'r polisi 'Pwysau Iach: Cymru Iach'? OAQ53518
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyllidebu aml-flwyddyn? OAQ53522
A'r eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch rôl ysgolion o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ53496
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflawniad Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr? OAQ53484
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud â gwledydd y tu allan i'r UE yn y cyfnod cyn ymadael â'r UE? OAQ53525
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio denu buddsoddiad i Islwyn o Unol Daleithiau America? OAQ53519
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am geisiadau yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr? OAQ53501
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Dai Lloyd.
1. Pa asesiad mae’r Comisiwn wedi’i wneud o’r effaith ar ymgysylltiad democrataidd pan fo gwleidyddion yn newid pleidiau? OAQ53486
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y camau nesaf ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru? OAQ53489
3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y polisi ynghylch hedfan baneri ar ystâd y Cynulliad ar ôl i'r DU ymadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ53507
4. A oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i sefydlu coffâd parhaol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a fu farw yn y swydd? OAQ53502
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn a ddaeth i law y prynhawn yma, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Andrew R.T. Davies.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni adroddiadau ynghylch ailwampio mawr ar y gêm broffesiynol yng Nghymru? 284
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ond ni chafodd unrhyw ddatganiad ei dderbyn heddiw.
Felly, yr eitem ganlynol yw'r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y...
Y ddadl nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru....
Symudwn ymlaen at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, sef dadl ar ddeiseb P-05-849, 'Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad'. Galwaf ar...
Nid oes unrhyw eitemau ar gyfer pleidleisio arnynt y prynhawn yma.
Felly, symudwn at eitem 11, sef y ddadl fer, a galwaf ar John Griffiths i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. John.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gogledd-ddwyrain Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes rhyngwladol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y gyllideb ar gyfer gweithredu'r mesurau a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)...
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia