Cyllid Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:06, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, edrychwch, nid yw'n wir o gwbl fod gwleidyddiaeth yn cael unrhyw le yn y fformiwla ariannu llywodraeth leol. Datblygir y fformiwla ariannu llywodraeth leol ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth lywodraeth leol, os ydynt am gynnig ffordd wahanol o rannu cyllid ymhlith awdurdodau lleol, y byddem yn fwy na pharod i gael y sgyrsiau hynny, ond nid oes syniad neu gynigion o'r fath wedi cael eu cynnig eto.