Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 6 Mawrth 2019.
Buaswn yn anghytuno â'r disgrifiad o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer busnesau, ond mae hwn yn faes sydd wedi bod o ddiddordeb i mi ers dod i'r portffolio, ac rwy'n archwilio beth arall y gallem ei wneud i fodloni ein hunain pan gaiff grantiau eu rhoi, ac yn wir, pan gaiff benthyciadau busnes eu rhoi, y gallwn fod yn sicr ein bod yn buddsoddi yn y cwmni iawn ac yn ymgymryd â'r lefel gywir o risg gyda'r cwmnïau hynny.
Felly, un peth y gallem geisio'i sicrhau o bosibl yw bod gennym swyddogion penodol yn ymdrin â phrosiectau penodol, ac y gall Gweinidogion gyfarfod â hwy'n rheolaidd i oruchwylio'r benthyciadau hynny. Mae'n rhaid imi ddweud bod strwythur archwilio enfawr eisoes ar waith yn Llywodraeth Cymru o ran sicrhau y gwneir buddsoddiadau cywir a da â'r arian a fuddsoddwn.