Cyllid Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:04, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Mae bob amser yn wir, yn amlwg, yr hoffai awdurdodau lleol gael cymaint o'r arian â phosibl yn y grant cynnal refeniw, ac rydym wedi cymryd camau, ar sail flynyddol rwy'n credu, i ystyried beth arall y gallwn ei wneud er mwyn rhoi'r math o hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i awdurdodau lleol. Bydd yr is-grŵp cyllid yn cyfarfod eto cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno yno.