Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i ofyn—? Wrth i 29 Mawrth agosáu, yn amlwg, ceir rhai cyfleoedd i Gymru yn ogystal â rhai o'r pryderon a godwyd. Un o'r cyfleoedd hynny yw'r cyfle i'r Deyrnas Unedig lunio ei chytundebau masnach ei hun â gwledydd eraill ledled y byd. Beth a wnewch fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall Cymru fod ar flaen y gad o ran y penderfyniadau masnach hynny a'r cyfleoedd y gallent eu cynnig?