Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:36, 6 Mawrth 2019

Diolch, Llywydd. Rwy'n siwr bod cefnogwyr ar hyd a lled y wlad wedi bod yn dilyn datblygiadau ym myd rygbi Cymru'r wythnos hon gyda chymysgedd o ddryswch, cyffro, gobaith ac ofn. Bydd trigolion y gogledd yn siwr o fod wrth eu boddau bod posibiliad y byddan nhw'n cael rhanbarth proffesiynol o'r diwedd, a fyddai'n golygu bydd rygbi yn gwbl broffesiynol ar lefel genedlaethol gan ysgogi cyfleon ar gyfer datblygu chwaraewyr ifanc ar gyfer y dyfodol. Ond, daeth ymateb chwyrn gan gefngwyr y Scarlets a'r Gweilch, gyda phryderon y bydd y cynlluniau yn dinistrio hunaniaeth y timau maen nhw wedi eu dilyn ers amser maith, ac yn niweidio'r gêm ar lefel llawr gwlad. Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ynghylch y cynlluniau ac a oes gwirionedd y tu ôl i'r adroddiadau bod yr undeb wedi gofyn am gymorth ariannol gan y Llywodraeth er mwyn bwrw'r cynlluniau yn eu blaen.